Amdanom ni

Ofwat (Yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr) yw’r rheoleiddiwr economaidd ar gyfer y sectorau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y cwmnïau a reoleiddir gennym yn rhoi gwasanaeth o ansawdd da ac effeithlon am bris teg i’w cwsmeriaid.

Mae Ofwat yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn Lloegr, gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Gwneir penderfyniadau gan Fwrdd Ofwat, sy’n gyfrifol am benderfynu sut yr ydym yn gwneud ein swyddogaethau a bodloni ein gofynion statudol yn effeithiol.

Rydym yn gyfrifol am osod terfynau pris a gwneud yn siŵr bod y cwmnïau a reoleiddiwn yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003). Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod cwmnïau yn gallu ariannu eu swyddogaethau. Hefyd rydym yn gwarchod y safonau y bydd cwsmeriaid gwasanaeth yn eu derbyn, yn hyrwyddo effeithlonrwydd a chynorthwyo i greu’r amodau ym mha rai y gall cystadleuaeth ddatblygu.

Yn ogystal â’r cwmnïau y mae eu hardaloedd gwasanaeth yn gyfan gwbl yn Lloegr, rydym hefyd yn rheoleiddio’r rhai hynny sy’n gweithredu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru. Mae hyn ar hyn o bryd yn cynnwys Dŵr Cymru, Dŵr Dyffryn Dyfrdwy a’r ardal yng nghanolbarth Cymru a wasanaethir gan Dŵr Hafren Trent. Rydym hefyd yn rheoleiddio cwmnïau eraill sy’n gwasanaethu niferoedd bychan iawn o gwsmeriaid mewn rhannau o Gymru.

Rydym yn cyflogi tua 200 o staff ac mae’n prif swyddfa wedi ei lleoli yn Birmingham.