Achos gorfodi i Dŵr Cymru am gywirdeb adrodd perfformiad am ollyngiadau a defnyd dŵr y pen ('PCC')

 

Achos gorfodi i Dŵr Cymru am gywirdeb adrodd perfformiad am ollyngiadau a defnyd dŵr y pen (‘PCC’)

25 Mai 2023

Crynodeb achos

Rydym wedi agor achos gorfodi i gywirdeb ffigurau perfformiad gollyngiadau a PCC mae Dŵr Cymru wedi’i adrodd i Ofwat fel rhan o’i adroddiad rheoleiddiol blynyddol ar gyfer y cyfnodau 2020-21 a 2021-22. Daw hyn ar ôl i Dŵr Cymru hysbysu Ofwat ei fod wedi nodi problemau gyda’i gyfrifiadau gollyngiadau a pherfformiad PCC ar gyfer y cyfnodau hynny fel rhan o’i broses sicrwydd Adroddiad Perfformiad Blynyddol.

Mae gan gwmnïau gymhellion cyflenwi canlyniadau sy’n gysylltiedig â’u perfformiad gollyngiadau fel rhan o’u rheolaethau prisiau. Maent yn derbyn taliadau gorberfformiad am ragori ar dargedau ac yn achosi taliadau tanberfformio lle maent yn methu eu targedau. Yn dilyn hysbysiad gan Dŵr Cymru i Ofwat ym mis Tachwedd 2022 am y materion yr oedd wedi’u nodi, gohiriodd Ofwat ei benderfyniad ar gymhellion cyflenwi canlyniadau sy’n gysylltiedig ag ymrwymiad perfformiad gollyngiadau’r cwmni, nes iddo gael data cywir ar gyfer y cyfnodau dan sylw.

Bydd ymchwiliad Ofwat yn ystyried ffigurau perfformiad Dŵr Cymru sydd wedi’u ailddatgan, beth arweiniodd at y cwmni’n adrodd perfformiad anghywir, a pha gamau sydd wedi’u cymryd neu’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r methiannau hyn. Mae Dŵr Cymru eisoes yn ystyried sut y gallai unioni’r mater gyda’i gwsmeriaid. Bydd Ofwat yn ystyried unrhyw gynlluniau adfer fel rhan o’i ymchwiliad, a’i benderfyniad ynghylch a’r angen i Ofwat gymryd unrhyw gamau pellach ar y mater.

Pwerau perthnasol

Adran 18 Deddf Diwydiant Dŵr 1991

Dyddiad agor                                                   

25 Mai 2023

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â: [email protected]

Dylid cyfeirio ymholiadau’r cyfryngau gael eu cyfeirio at Swyddfa Wasg Ofwat: 0121 644 7642 / 7821 / 7616 / [email protected]