PN 41/22 Adolygiad Prisiau 2024 - amgylchedd iachach a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid: Ofwat yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y sector dŵr

 

Mae Ofwat wedi cyhoeddi’r fethodoleg derfynol heddiw ar gyfer yr Adolygiad Prisiau sydd i ddod yn fuan (PR24). Mae’r angen am welliant sylweddol yn y sector yn amlwg a bydd PR24, a fydd yn cwmpasu’r cyfnod 2025-2030, yn ysgogi cwmnïau dŵr i gyflawni gwelliannau i gwsmeriaid a’r amgylchedd.

Mae’r fethodoleg derfynol yn nodi’r fframwaith y bydd cwmnïau dŵr yn ei ddilyn. Bydd y fframwaith yn arwain at benderfyniadau terfynol ym mis Rhagfyr 2024 ar gynlluniau pob cwmni, a biliau cwsmeriaid, ar gyfer y dyfodol.

Bydd y fethodoleg yn golygu bod angen i gwmnïau dŵr fodloni ymrwymiadau amgylcheddol newydd a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae Ofwat hefyd yn glir nad yw popeth yn ymwneud â chynlluniau ar gyfer y dyfodol ac, yn ei ragair i’r cyhoeddiad heddiw, mae David Black, y Prif Weithredwr, yn pwysleisio bod angen i gwmnïau weithredu nawr i sicrhau gwelliannau cyn i’r adolygiad prisiau nesaf ddod i rym:

“Mae cwmnïau wedi methu â chyflawni disgwyliadau cwsmeriaid a chymunedau – mae angen iddynt achub ar y cyfle i drawsnewid eu perfformiad yn PR24. Bydd newid perfformiad amgylcheddol a gwella gwytnwch yn gofyn am arloesi a dulliau newydd o reoli dŵr a buddsoddiad.

“Mae angen i’r sector weithredu nawr – cyn PR24. Mae angen gwelliannau sylweddol i leihau’r galw am ddŵr, gwella gwasanaeth i gwsmeriaid a lleihau achosion o lygredd. Rydym yn awyddus i gwmnïau ymateb i’r angen dybryd am newid a gosod cynlluniau uchelgeisiol i wella canlyniadau i gwsmeriaid a’r amgylchedd”.

Mae elfennau allweddol fframwaith PR24 yn cynnwys:

  • Ymrwymiadau amgylcheddol newydd i gwmnïau gan gynnwys ynghylch y defnydd o orlifau stormydd, gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd dŵr ymdrochi a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Camau i ysgogi cwmnïau i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol, ac i gynnal a gwella iechyd eu hasedau, fel bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth da yn gyson, bob dydd
  • Disgwyliadau clir i gwmnïau fynd i’r afael â’r her hirdymor o sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau dŵr, gan gynnwys drwy gamau i leihau gollyngiadau a defnydd dŵr a chynyddu cyflenwad dŵr, gyda chronfa newydd gwerth hyd at £100 miliwn i ysgogi dulliau newydd ar gyfer defnyddio dŵr yn effeithlon.
  • Gosod disgwyliadau clir ar bolisïau difidend a chyflogau swyddogion gweithredol cwmnïau, gyda’r posibilrwydd o fesurau ychwanegol ar dâl cysylltiedig â pherfformiad i ddiogelu buddiannau cwsmeriaid os na chaiff y disgwyliadau hyn eu bodloni
  • Rhoi barn cwsmeriaid wrth galon y broses, gyda chwmnïau’n cynnal ymchwil cwsmeriaid cadarn a chynnal dau gyfarfod cyhoeddus yn 2023
  • Cymhellion i gwmnïau fod yn fwy effeithlon ac arloesol, gan gynnwys Cronfa Arloesedd gwerth £300 miliwn i gefnogi rhagor o syniadau sy’n newid y sector
  • Mwy o ddefnydd o farchnadoedd lle gallant roi gwell gwerth i gwsmeriaid drwy leihau costau tra’n cynnal safon, gan gynnwys sut y caiff prosiectau buddsoddi mawr eu caffael, ac yng ngweithrediad y marchnadoedd ar gyfer gwasanaethau datblygwyr a bioadnoddau

Yn ystod cyfnod nesaf y broses adolygu prisiau bydd cwmnïau’n datblygu eu cynlluniau busnes a’u strategaethau cyflawni hirdymor a fydd yn nodi’r lefel ddisgwyliedig o fuddsoddiad i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen. Bydd disgwyl i gwmnïau ystyried fforddiadwyedd eu cynlluniau’n ofalus, gan geisio gwneud arbedion effeithlonrwydd wrth gyflawni prosiectau buddsoddi a chydbwyso buddiannau cwsmeriaid heddiw gyda buddiannau cwsmeriaid y  dyfodol.

Dywedodd Aileen Armstrong, cyfarwyddwr gweithredol y rhaglen PR24:

“Bydd angen i gwmnïau sicrhau newid sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae angen i ni gael cwmnïau gwydn sy’n cael eu rhedeg yn dda, sy’n darparu gwasanaeth o safon i’w cwsmeriaid a chanlyniad gwell i’r amgylchedd am bris sy’n parhau i fod yn fforddiadwy.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Bydd PR24 yn pennu’r pecyn prisiau, gwasanaeth a chymhelliant ar gyfer 2025-2030 ym mis Rhagfyr 2024. Methodoleg Ofwat yw’r fframwaith sy’n nodi’r disgwyliadau ar gyfer cynlluniau busnes cwmnïau, y mae’n rhaid eu cyflwyno ym mis Hydref 2023. Mae’r fframwaith hefyd yn gosod allan sut ycaiff y cynlluniau busnes hynny eu hasesu.