Blaenraglen Ofwat 2022-23 – drafft ar gyfer ymgynghoriad

Blaenraglen Ofwat 2022-23 – drafft ar gyfer ymgynghoriad

Published date: January 20, 2022
Closing date:

Download

About Consultation

Mae ein tri nod strategol – trawsnewid perfformiad cwmnïau dŵr, ymateb i heriau hirdymor a rhoi mwy o werth i gwsmeriaid a’r amgylchedd – yn parhau i lunio ein rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ein nod allweddol yw i’r sector dŵr ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid, diogelu’r amgylchedd a gwella bywyd drwy ddŵr nawr ac yn y dyfodol, ac adlewyrchir hyn yn ein Blaenraglen ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 – drafft ar gyfer ymgynghoriad.

Where to send submissions

AByddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y ddogfen hon. Anfonwch eich sylwadau unai mewn e-bost [email protected] gan ddefnyddio’r testun ‘Blaenraglen Ofwat 2022-23 – drafft ar gyfer ymgynghoriad’ neu drwy’r post i:

Forward Programme Consultation response
Ofwat
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham B5 4UA

Dyddiad cau yr ymgynghoriad hwn yw dydd Gwener, 18 Chwefror 2022. Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r ymgynghoriad, cysylltwch â Jenny Block ar 0121 644 7645 neu drwy e-bost [email protected].

Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ar ein gwefan www.ofwat.gov.uk. Byddwn yn ystyried peidio â chyhoeddi eich ymateb os y nodwch eich bod yn ystyried unrhyw elfennau yn gyfrinachol. Hefyd, gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â deddfwriaeth mynediad at wybodaeth – Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn bennaf, Deddf Diogelu Data 2018, a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu data personol, gweler ein polisi preifatrwydd.

Os hoffech i’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, cofiwch fod Cod ymarfer statudol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth sy’n ymdrin, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau hyder. O ystyried hyn, esboniwch i ni pam rydych yn ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os cawn gais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gallwn gynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymo Ofwat.