About Consultation
Ynghylch y cais hwn am farn rhanddeiliaid
Mae’r cais hwn am farn rhanddeiliaid ynghylch sut y gosodir taliadau ar gyfer gwasanaethau datblygwyr gan y cwmnïau dŵr a dŵr gwastraff Cymreig. Rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer datblygu rheolau newydd a fyddai’n rheoli sut y byddai’r cwmnïau hyn yn gosod eu taliadau ar gyfer gwasanaethau datblygwyr. Er mwyn datblygu’r rheolau hyn, rydym yn chwilio am farn rhanddeiliaid megis datblygwyr a darparwyr hunan-leyg ar unrhyw faterion sydd ganddynt o bosibl gyda’r dull presennol am godi tâl am y gwasanaethau hyn ac unrhyw newidiadau y maent yn dymuno eu gweld yn y dyfodol.
Ble i anfon cyflwyniadau
Rydym yn croesawu eich barn am y cwestiynau yn ein cais am farn rhanddeiliaid erbyn 30 Medi 2020.
Byddwn wedyn yn ystyried yr ymatebion ac yn cyhoeddi fersiwn drafft o sut bydd y rheolau newydd yn edrych o bosibl yn hwyrach yn y flwyddyn.
Wrth ymateb, noder pa rif(au) cwestiwn mae eich sylwadau yn ymateb iddynt (ceir manylion yn y ddogfen).
E-bostiwch eich ymateb i [email protected], gyda’r pwnc ‘Taliadau gwasanaethau datblygwyr Cymreig’. Oherwydd y pandemig Covid-19, nid ydym ar hyn o bryd yn gallu derbyn ymatebion drwy’r post.