PN 02/22: Cyhoeddi beirniaid newydd ar gyfer cystadleuaeth Her Torri Trwodd Dŵr 2 gwerth £39 miliwn i drawsnewid a chataleiddio arloesedd mewn dŵr

 
  • Cyhoeddi paneli beirniadu ar gyfer dwy ffrwd yr ail Her Torri Drwodd Dŵr sydd â chyfoeth o arbenigedd ar draws meysydd megis arloesi, mewnwelediad cwsmeriaid a chynaliadwyedd.
  • Bydd tua £5 miliwn yn cael ei ddyfarnu yn y Ffrwd Catalydd i ymgeiswyr sy’n chwilio am rhwng £100,000 ac £1 miliwn.
  • Bydd tua £34 miliwn yn cael ei ddyfarnu yn y Ffrwd Trawsnewid i ymgeiswyr sy’n chwilio am rhwng £1 miliwn a £10 miliwn.
  • Nod Her Torri Trwodd Dŵr yw annog ffyrdd newydd o weithio sy’n mynd y tu hwnt i arferion arloesi busnes-fel-arfer yn y sector dŵr

25 Ionawr 2022 (Llundain) – Heddiw mae’r rheoleiddiwr dŵr Ofwat a’r sefydliad arloesi Nesta Challenges yn cyhoeddi’r paneli beirniadu arbenigol ar gyfer dwy ffrwd yr Her Torri Trwodd Dŵr gwerth £39 miliwn, sydd â’r nod o gyflwyno arloesedd a fydd yn arwain y diwydiant ac sy’n sicrhau buddion i gwsmeriaid dŵr, cymdeithas, a’r amgylchedd.

Wedi’i rhannu’n ddwy ffrwd, bydd y Ffrwd Catalydd yn dyfarnu tua £5 miliwn i ymgeiswyr sy’n chwilio am rhwng £100,000 ac £1 miliwn a bydd y Ffrwd Trawsnewid yn dyfarnu tua £34 miliwn i ymgeiswyr sy’n chwilio am rhwng £1 miliwn a £10 miliwn.

Mae panel y Ffrwd Catalydd yn cynnwys beirniaid a fu’n asesu ymgeiswyr Her Arloesedd mewn Dŵr y llynedd, gyda’r newydd-ddyfodiad arbenigol Alison Austin OBE (Aelod Bwrdd Annibynnol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr) yn ymuno â’r panel, ochr yn ochr â Tony Conway (Athro Gwadd, Prifysgol Sheffield a Chyfarwyddwr Dŵr Prydain), a feirniadodd yr Her Torri Trwodd Dŵr gyntaf hefyd. Ymunir â nhw ar banel beirniadu’r Ffrwd Catalydd gan:

  • Myrtle Dawes – Cyfarwyddwr Solution Centre, Canolfan Technoleg Olew a Nwy
  • Lila Thompson – Prif Weithredwr, Dŵr Prydain
  • Nicola Ballantyne – Rheolwr Trosglwyddo Gwybodaeth, Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth
  • Adam Scorer – Prif Swyddog Gweithredol, Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru
  • Dragan Savic – Prif Swyddog Gweithredol, KWR Water

Mae panel y Ffrwd Trawsnewid yn cynnwys beirniaid o’r Her Torri Drwodd Dŵr gyntaf, yn ogystal â dau arbenigwr uchel eu parch yn y diwydiant, Dr Jane Davidson (Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a Dr Steven Steer (Prif Ymgynghorydd Data, Grŵp Zuhlke a chyn Bennaeth Data Ofgem). Maent yn ymuno â’r chwe beirniad arall ar y panel:

  • Anusha Shah – Cyfarwyddwr Resilient Cities, Arcadis, BEng, CEng, FICE
  • Sharon Darcy – Cyfarwyddwr, Sustainability First
  • Paul O’Callaghan – Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, BlueTech Research
  • Niki Roach – Llywydd, Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd AxiaOrigin, FCIWEM, CEnv
  • Frank Rogalla – Cyfarwyddwr Arloesedd a Thechnoleg, Aqualia (Sbaen)
  • Tony Conway – Athro Gwadd, Prifysgol Sheffield a Chyn Gyfarwyddwr Gweithredol, United Utilities

Bydd ehangder arbenigedd y beirniaid yn dod â mewnwelediadau o’r tu mewn i’r sector dŵr a thu hwnt, yn ogystal â dealltwriaeth ddofn o arloesi a phryderon cwsmeriaid.

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr yn Ofwat:

“Ers i ni lansio’r Gronfa Arloesedd Dŵr flwyddyn yn ôl mae’r partneriaethau a ffurfiwyd ar draws diwydiant wedi arwain at brosiectau gwirioneddol gyffrous a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i gwsmeriaid, yr amgylchedd a gwytnwch gweithredol y sector dŵr. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein beirniaid ar gyfer yr ail Her Torri Trwodd Dŵr heddiw a fydd yn dod â’u gwybodaeth a’u harbenigedd i ddylanwadu ar yr hyn a fydd yn broses feirniadu gystadleuol iawn.”

Dywedodd Alison Austin OBE, Aelod Annibynnol o Fwrdd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr a beirniad Ffrwd Catalydd yr Her Torri Drwodd Dŵr:

“Mae’n bleser mawr gennyf ymuno â gweddill y panel o feirniaid arbenigol i ddyfarnu cyllid ar gyfer syniadau arloesol a fydd o fudd i ddefnyddwyr, cymdeithas a’r amgylchedd yn y dyfodol. Byddaf yn ceisio gwneud yn siŵr bod modd dangos tystiolaeth, gwireddu a thyfu budd i gwsmeriaid yn y cynigion a ddatblygir.  Mae rhai heriau mawr yn ein hwynebu yn ystod y deng mlynedd nesaf, gyda llawer ohonynt yn dibynnu ar ffordd wahanol o feddwl a chydweithio gwirioneddol.  Rwy’n siŵr y bydd hi’n anodd dewis y datblygiadau arloesol gorau ar gyfer cwsmeriaid.”

Derbyniwyd 18 cais ar gyfer y Ffrwd Catalydd, gyda chwmnïau dŵr o Gymru a Lloegr yn ffurfio partneriaethau rhwng 58 o sefydliadau ar draws y diwydiant, y byd academaidd a darparwyr datrysiadau arbenigol. Mae 25% o’r partneriaethau yn gysylltiadau newydd a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr Her Torri Trwodd Dŵr. Mae’r Ffrwd Trawsnewid yn cau ar gyfer ceisiadau terfynol ar 8 Chwefror 2022.

Mae’r Her Torri Trwodd Dŵr yn cyfrannu at nod y rheoleiddiwr dŵr Ofwat i greu sector dŵr arloesol a chydweithredol a fydd yn gallu diwallu anghenion cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn y dyfodol. Mae’r Her yn ariannu mentrau na fyddai cwmnïau dŵr yn gallu buddsoddi ynddynt na’u harchwilio fel arall. Bydd cystadlaethau arloesi newydd yn cael eu cyhoeddi hyd at 2025, fodd bynnag nod Ofwat yw y bydd effaith y Gronfa Arloesedd yn cael ei theimlo ymhell y tu hwnt i hyn.

Bydd y beirniadu ar gyfer yr ail Her Torri Trwodd Dŵr yn cychwyn ym mis Chwefror 2022 a bydd enillwyr Ffrwd Catalydd yr Her Torri Trwodd Dŵr yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2022 ac enillwyr y Ffrwd Trawsnewid yn cael eu datgelu ym mis Ebrill 2022.

I ddarganfod mwy ewch waterinnovation.challenges.org.

-DIWEDD-

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau cysylltwch â:

Robyn Margetts, [email protected] NEU Andrew McKay, [email protected]

Ynglŷn â chronfa arloesedd Ofwat a’r gystadleuaeth Her Torri Drwodd Dŵr

Ynglŷn â Chronfa Arloesedd Ofwat

Mae Ofwat wedi sefydlu Cronfa Arloesedd gwerth £200 miliwn i gynyddu gallu’r sector dŵr i arloesi, gan ei alluogi i ddiwallu’n well anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.

Cynhelir ail Her Torri Trwodd Dŵr gan Ofwat a Nesta Challenges mewn partneriaeth ag Arup ac Isle Utilities a dyma’r drydedd mewn cyfres o gystadlaethau a gyflwynir drwy’r Gronfa yn dilyn yr Her Arloesi mewn Dŵr a’r Her Torri Trwodd Dŵr gyntaf y llynedd.

Anogwyd ceisiadau gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ochr yn ochr â phartneriaethau â sefydliadau o fewn a thu allan i’r sector dŵr, gan gynnwys prifysgolion a sefydliadau, manwerthwyr, busnesau newydd, neu fusnesau bach mewn sectorau megis ynni, gweithgynhyrchu, iechyd, neu wasanaethau ariannol.

https://www.ofwat.gov.uk/about-us/our-duties/.

I gysylltu â swyddfa’r wasg Ofwat, ffoniwch 07458 126271 

Ynglŷn â Ffrwd Catalydd yr Ail Her Torri Drwodd Dŵr

Mae’r ail Her Torri Trwodd Dŵr yn rhan o gyfres o gystadlaethau a ariennir gan Gronfa Arloesedd Dŵr gwerth £200 miliwn Ofwat. Mae’r cystadlaethau – a gynhelir gan Ofwat a Nesta Challenges mewn partneriaeth ag Arup ac Isle Utilities – yn annog ffyrdd newydd o weithio sy’n mynd y tu hwnt i arferion arloesi busnes-fel-arfer yn y diwydiant dŵr, gan yn benodol gynyddu a gwella cydweithio a meithrin partneriaethau oddi mewn a thu allan i’r sector dŵr.

Agorodd Ffrwd Catalydd yr ail Her Torri Drwodd Dŵr ar 11 Hydref 2021 i ddarparu cyllid ar gyfer mentrau arloesol pellach yn y sector dŵr.  Mae hyd at £35 miliwn ar gael i’w rannu rhwng cynigion sy’n rhoi buddion i gwsmeriaid dŵr, cymdeithas a’r amgylchedd. Caeodd y broses gais ar 8 Rhagfyr 2021 a gwelwyd dros 58 o sefydliadau’n ymgeisio.

Anogir cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â phartneriaethau â sefydliadau yng nghadwyn gyflenwi’r sector dŵr a thu hwnt, i wneud cais. Mae tua £5 miliwn ar gael drwy’r ‘Ffrwd Catalydd’ ar gyfer ceisiadau sy’n cynnig am rhwng £100,000 ac £1 miliwn. Mae tua £34 miliwn ar gael drwy’r ‘Ffrwd Trawsnewid’ ar gyfer ceisiadau sy’n cynnig rhwng £1 miliwn a £10 miliwn.

Bydd y Ffrwd Catalydd yn dyfarnu tua £5 miliwn i geisiadau gan gwmnïau dŵr a’u partneriaid yn y sector dŵr a’r tu allan iddo sy’n chwilio am rhwng £100,000 ac £1 miliwn. Dylai mentrau a ariennir drwy’r Ffrwd hon annog ffyrdd newydd o weithio sy’n mynd y tu hwnt i arferion arloesi busnes-fel-arfer, ac sy’n canolbwyntio’n benodol ar gynyddu a gwella cydweithredu ar draws y sector dŵr.

Bydd y Ffrwd Trawsnewid yn dyfarnu tua £34 miliwn i ymgeiswyr sy’n chwilio am rhwng £1 miliwn a £10 miliwn. Mae’r Ffrwd hon yn canolbwyntio ar sbarduno arloesedd uchelgeisiol, a dylai mentrau alluogi dulliau gweithredu a ffyrdd newydd o weithio sy’n ysgogi buddion pellgyrhaeddol a hirhoedlog i gwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.

Ynglŷn â Nesta a Nesta Challenges

Sefydliad arloesi yw Nesta. I ni, mae arloesi yn golygu troi syniadau beiddgar yn realiti a newid bywydau er gwell. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd, sgiliau a chyllid mewn meysydd lle mae heriau mawr yn wynebu cymdeithas. Rydym wedi treulio dros 20 mlynedd yn canfod y ffyrdd gorau o wneud i newid ddigwydd trwy ymchwil ac arbrofi, ac rydym wedi cymhwyso hynny i’n gwaith ym meysydd polisi arloesedd, iechyd, addysg, arloesi’r llywodraeth a’r economi greadigol a’r celfyddydau.

O fewn Nesta, Nesta Challenges yn bodoli i gynllunio a chynnal gwobrau her sy’n helpu i ddatrys problemau enbyd sydd heb ddatrysiadau. Rydym yn tynnu sylw at y meysydd sy’n bwysig ac yn cymell pobl i ddatrys y materion hyn. Rydym yn gefnogwyr annibynnol newid i helpu cymunedau i ffynnu ac ysbrydoli’r grwpiau mwyaf amrywiol o bobl ledled y byd sydd yn y sefyllfa orau i weithredu.

Rydym yn cefnogi’r syniadau mwyaf beiddgar a dewr i ddod yn real a sbarduno newid hirdymor er mwyn datblygu cymdeithas ac adeiladu dyfodol gwell i bawb. Rydym yn rhan o’r sefydliad arloesi, Nesta. Rydym yn herwyr. Rydym yn arloeswyr. Rydym yn ysgogwyr newid.#

Ynglŷn ag Arup

Mae Arup yn gwmni annibynnol o ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr technegol, sy’n gweithio ar draws pob agwedd ar amgylchedd adeiledig heddiw. Gyda’n gilydd rydym yn helpu ein cleientiaid i ddatrys eu heriau mwyaf cymhleth – gan droi syniadau cyffrous yn realiti ymarferol wrth i ni ymdrechu i ddod o hyd i ffordd well a siapio byd gwell. Gyda chymuned o dros 1700 o weithwyr dŵr proffesiynol, mae Arup yn arwain syniadaeth yn fyd-eang ar draws meysydd allweddol fel arloesi, gwytnwch, carbon sero net a rheoli dŵr yn gynaliadwy.

Ynglŷn ag Isle Utilities

Mae Isle yn dîm byd-eang o wyddonwyr, peirianwyr, arbenigwyr busnes a rheoleiddio annibynnol sydd ag ysgogiad gyffredin i gael effaith gadarnhaol yn amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd drwy hyrwyddo technolegau, datrysiadau ac arferion arloesol.