PN 10/20: Ofwat yn cyhoeddi penodiad ei Bennaeth Cymru cyntaf

 

Heddiw cyhoeddodd Ofwat benodiad Bethan Evans fel ei Bennaeth Cymru cyntaf – gan roi presenoldeb parhaol yng Nghymru am y tro cyntaf.

O 1 Medi bydd gan Bethan rôl bwysig mewn sicrhau bod Ofwat yn cyfranogi mewn trafodaethau polisi Cymru a bydd yn canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau o arbenigedd rhanddeiliaid yng Nghymru i hwyluso dull rheoleiddio sy’n adlewyrchu amgylchiadau penodol Cymru.

Bydd Bethan yn ymuno o KPMG lle mae’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn y practis cynghori seilwaith.

Ymunodd â KPMG yn 2009, cymhwysodd fel cyfrifydd siartredig yn 2012 ac enillodd brofiad eang mewn cynghori cleientiaid llywodraeth a chorfforaethol ar faterion strategol, polisi a masnachol. Mae’n siaradwraig Cymraeg ac mae ganddi ddealltwriaeth ragorol o ddulliau rheoleiddio yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Wrth gyhoeddi ei phenodiad, meddai John Russell, Uwch Gyfarwyddwr:

“Mae’n bleser mawr gennym benodi Bethan fel ein Pennaeth Cymru newydd. Mae adlewyrchu amgylchiadau yng Nghymru yn bwysig i ni, felly mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr cymunedau yng Nghymru i archwilio sut a phryd y mae angen i ni ddefnyddio dull gwahanol er mwyn cydweddu â deddfwriaeth a pholisïau Cymru.

“Bydd Bethan yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau y gallwn gyfranogi’n llawn mewn trafodaethau polisi Cymru a chryfhau ein perthynas â’n rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni wthio’r sector i gyflawni ar gyfer cwsmeriaid, yr amgylchedd a chymdeithas yng Nghymru.”

Meddai Bethan Evans:

“Mae dŵr yn un o brif asedau naturiol Cymru a rhaid ei reoli’n gynaliadwy a chyfrifol. Rwy’n llawn cyffro i fod yn ymgymryd â rôl Pennaeth Cymru er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yng Nghymru a’r gymuned yn ehangach yn elwa gan wasanaethau gwydn a dibynadwy.

“Mae Ofwat yn ysgogi cynnydd yn y sector ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru er mwyn helpu i gyflawni’r uchelgeisiau hyn.”