PN 12/21: Ofwat yn #ListenCareShare er mwyn deall profiad cwsmeriaid mewn pandemig

 

Heddiw mae Ofwat yn dechrau sgwrs gyda’r sector dŵr a thu hwnt i wrando, gofalu a rhannu, er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid ledled y wlad yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt gan eu cwmni dŵr.

Bydd yn gwrando ar anghenion cwsmeriaid a’r hyn y maent wedi’i brofi drwy’r pandemig ac yn edrych ar beth yn rhagor y gellir ei wneud i ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae Ofwat yn gwahodd sefydliadau arbenigol, y sector dŵr a chwsmeriaid i rannu enghreifftiau o arfer gwych, meysydd sydd o bosibl angen sylw a’r hyn y gellir ei ddysgu gan yr enghreifftiau hyn.

I ddechrau, mae’r sgwrs yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:

  1. Bregusrwydd ariannol – Canfu ymchwil gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) bod, erbyn tymor yr hydref 2020, dros un rhan o dair o oedolion yn wynebu sefyllfa ariannol waeth oherwydd Covid-19.
  2. Lles meddyliol – Mae’r Money and Mental Health Policy Institute yn adrodd bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl dair gwaith a hanner yn fwy tebygol o fod mewn dyled sy’n peri problem.
  3. Anghydraddoldeb gwybodaeth – Mae pobl sydd heb fynediad at ddulliau cyfathrebu digidol erbyn hyn wedi’u heithrio’n fwy gan fod cymaint o wasanaethau wyneb yn wyneb wedi eu hatal dros gyfnod y pandemig.

Er mwyn llywio’r sgwrs, mae Ofwat wedi cynnal ymchwil cwsmeriaid, wedi cynnal sgyrsiau bord gron ac ymgysylltu â nifer o rai sydd â diddordeb er mwyn deall yn well y sefyllfa o safbwynt cwsmeriaid. Dros yr wythnosau nesaf, mae’n bwriadu cloddio’n ddyfnach i’r themâu a rhannu canfyddiadau, gan wahodd y sector i gymryd rhan.

Dywedodd David Black, Prif Weithredwr Dros Dro Ofwat:

“Nid oes amheuaeth pa mor galed fu’r flwyddyn ddiwethaf ac y bydd effaith ariannol a chymdeithasol Covid-19 yn cael ei theimlo am amser hir gan gwsmeriaid ar draws cymdeithas. Drwy ddeall anghenion a blaenoriaethau pobl drwy’r pandemig gallwn wneud newid cadarnhaol i gwsmeriaid a chymunedau.

“Rydym eisiau cysylltu â’r nifer o sgyrsiau sydd eisoes yn digwydd ynglŷn â sut i ofalu am gwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn a rhannu’r dysgu ac arfer gorau er budd yr holl gwsmeriaid dŵr.”

Meddai Emma Clancy, Prif Weithredwr CCW:

“Wrth i ni ddod allan o Covid-19 mae’n hollbwysig i gadw ein bys ar y pwls o ran profiadau defnyddwyr o’r pandemig fel y gallwn sicrhau bod y diwydiant dŵr yn flaenllaw yn y gwaith o helpu aelwydydd ar y daith hir o adferiad.

“Mae heriau o’r maint rydym yn eu hwynebu yn mynnu bod pawb ohonom yn y sector dŵr yn cydweithio i ddysgu gan ein llwyddiannnau yn ogystal â’n camgymeriadau, fel y gallwn uno yn y ffyrdd gorau i sicrhau bod gan bobl y gefnogaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt – pan fyddant eu hangen fwyaf.”

DIWEDD

ofwat.gov.uk/ListenCareShare