PN 13/22 Mae mwyafrif o gwsmeriaid yn fodlon â gwasanaethau cwmnïau dŵr – ond mae llawer yn credu nad ydynt yn gweithredu er y budd gorau iddynt hwy.

 

Er bod dwy ran o dair o bobl yn hapus gyda’r gwasanaethau dŵr y maent yn eu derbyn, dim ond tua thraean o gwsmeriaid fyddai’n ymddiried yn eu cwmni dŵr i ddatrys problem yn gyflym ac mae ychydig dros chwarter yn meddwl bod cwmnïau’n gweithredu er budd pobl a’r amgylchedd.

Heddiw mae Ofwat a CCW wedi cyhoeddi ymchwil ar y cyd i gwsmeriaid sy’n archwilio materion megis dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gwmnïau dŵr, fforddiadwyedd ac ymddiriedaeth.

Canfu’r ymchwil fod blaenoriaethau cwsmeriaid yn canolbwyntio ar y gwasanaethau craidd – darparu dŵr yfed glân a diogel ac atal carthffosiaeth rhag mynd i mewn i gartrefi ac afonydd.

Ychydig iawn o gysylltiad sydd gan lawer o gwsmeriaid â’u cwmni ac mae ganddynt ymwybyddiaeth isel o’r cymorth y mae cwmnïau’n ei gynnig, neu’r amrywiaeth o bethau y mae cwmnïau’n eu gwneud.

Canfu’r adroddiad hefyd:

  • Mae mwy na thraean o gwsmeriaid (34%) yn cael trafferth talu biliau yn weddol aml, ond dim ond 4% o dalwyr biliau a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth ariannol gan eu cwmni dŵr dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Dywedodd ychydig dros 7 o bob 10 (71%) o bobl y byddent yn argymell eu darparwr dŵr i aelod o’r teulu neu ffrind. Mae hyn yn unol â’r gyfran a fyddai’n argymell eu darparwr trydan (71%) a darparwr nwy (72%).
  • Canfuwyd bod gwybodaeth am y sector dŵr yn gymysg, gyda’r rhan fwyaf o bobl (83%) yn dweud eu bod yn gwybod pwy sy’n darparu dŵr i’w cartrefi, ond mae llai na 4 o bob 10 yn ymwybodol na allant newid eu darparwr dŵr.
  • Canfuwyd bod ymgysylltu â chwmnïau dŵr yn weddol isel, gyda 44% o’r rhai a holwyd yn dweud nad ydynt erioed wedi cysylltu â’u cwmni dŵr, a 19% arall yn dweud nad ydynt wedi cysylltu â’r cwmni yn ystod y tair blynedd diwethaf.
  • Mae lleiafrif o bobl yn meddwl bod cwmnïau’n gweithredu er budd cwsmeriaid (27%), yr amgylchedd (27%) a’r gymuned leol (29%).

O ran effeithlonrwydd dŵr, mae llawer o gwsmeriaid yn sylweddoli bod mwy y gallant ei wneud i arbed dŵr a chydnabod y rôl y gall unigolion ei chwarae. Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu y gallai hyd yn oed cwsmeriaid sy’n teimlo eu bod yn chwarae eu rhan, fod yn gwneud mwy. Mae 48% o bobl yn teimlo eu bod eisoes yn gwneud cymaint ag y gallant i arbed dŵr yn y cartref er nad yw rhai o’r bobl hyn wedi cymryd camau syml fel defnyddio powlen golchi llestri.

Nid yw cwsmeriaid yn tueddu i weld lleihau’r defnydd o ddŵr yn y cartref neu’r ardd fel gweithgaredd blaenoriaeth ar gyfer cyflawni sero net neu newid yn yr hinsawdd. Dim ond 9% o’r rheini a oedd yn gyfarwydd â’r term sero net oedd yn ystyried hyn yn flaenoriaeth o gymharu â gweithgareddau fel ailgylchu, gan awgrymu bod gwaith i’w wneud o hyd yn y sector dŵr i annog mwy o ymddygiadau arbed dŵr.

Yn gyffredinol, mae’r ymchwil yn awgrymu bod rhai cwsmeriaid yn hapus gyda’r gwasanaeth a gânt, heb fod angen cysylltu â’u cwmni. Fodd bynnag, mae lefel isel o ymgysylltu â chwsmeriaid yn peri pryder gan y gallai olygu nad yw cwsmeriaid sydd angen cymorth ariannol neu gymorth gwasanaethau blaenoriaeth yn ymwybodol bod cymorth ar gael iddynt. Gallai diffyg ymgysylltu â chwmnïau hefyd olygu bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth gyfyngedig am sut y gallant wneud mwy i arbed dŵr a chymryd rhan mewn ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol.

Meddai David Black, Prif Weithredwr dros dro Ofwat:

“O ran darparu gwasanaethau dŵr craidd, mae’r ymchwil hwn yn awgrymu bod llawer o gwsmeriaid yn fodlon â’r gwasanaeth y maent yn ei gael. Fodd bynnag, mae’n peri pryder nad oes llawer o hyder ac ymddiriedaeth bod cwmnïau dŵr yn gweithredu er budd y cyhoedd, a dim digon o ymwybyddiaeth o gymorth i’r rhai mewn angen.

“Wrth i’r amseroedd fynd yn anoddach, ac wrth i bryderon gynyddu am effaith cwmnïau dŵr ar yr amgylchedd, mae angen i gwmnïau wneud llawer mwy i feithrin ymddiriedaeth a dangos eu bod yn gweithredu er budd y cyhoedd.”

Meddai Emma Clancy, Prif Weithredwr CCW:

“Er ei bod yn galonogol bod cwsmeriaid yn fodlon ar y cyfan â’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn, mae’r canfyddiadau hyn yn pwysleisio pa mor hanfodol yw hi i gwmnïau dŵr gryfhau eu perthynas â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”

“Un o’n blaenoriaethau yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi dŵr wrth i bwysau gynyddu ar ein hadnoddau ac mae hynny’n dibynnu ar gwmnïau dŵr yn gwella eu perfformiad ac yn darparu mwy o dryloywder ar eu perfformiad amgylcheddol. Mae ein hadolygiad o fforddiadwyedd dŵr hefyd wedi nodi llwybr clir i gryfhau’r cymorth i’r rheini sy’n wynebu caledi ariannol.”

Dyma’r tro cyntaf i Ofwat a CCW gynnal archwiliad cynhwysfawr o wybodaeth, bodlonrwydd, ymddiriedaeth, blaenoriaethau ac ymddygiad cwsmeriaid dŵr preswyl.

Mae’r data hwn yn rhoi meincnod ar gyfer y dyfodol a bydd Ofwat ni a CCW yn parhau i gasglu’r data hwn:

//DIWEDD//

Nodiadau i olygyddion

  • Sbotolau ar Gwsmeriaid: Barn a phrofiadau pobl o ddŵr yw’r darn cyntaf o ymchwil a gomisiynwyd ar gwsmeriaid cartref rhwng Ofwat a CCW. Mae’r ddogfen atodol yn adrodd hanes yr hyn y mae cwsmeriaid yn ei wybod, ei eisiau ac yn ei wneud mewn perthynas â’u gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.
  • Dolen i’r ymchwil ar ôl ei gyhoeddi:

Customer spotlight People’s views and experiences of water – A joint report from CCW and Ofwat – English

Sbotolau ar gwsmeriaid Barn a phrofiadau pobl o ddŵr – Adroddiad ar y cyd gan CCW ac Ofwat – Cymraeg / Welsh