Heddiw mae Ofwat yn amlinellu ei uchelgeisiau cynnar ar gyfer adolygiad prisiau 2024 – gan rannu syniadau ynglŷn â sut y gall y sector ymateb i’r heriau y mae’n eu hwynebu er mwyn cyflawni yn y dyfodol.
Fe fydd cyflymder a maint y newid yn gyflymach ac yn fwy nag erioed o’r blaen. Er mwyn ymateb i’r heriau a gyflwynir gan hyn a chofleidio’r cyfleoedd, mae Ofwat yn datblygu’r sgwrs ynglŷn â phedwar nod uchelgeisiol ar gyfer PR24:
- cynydd mewn ffocws ar yr hirdymor – mae angen i’r adolygiad prisiau roi’r atebion hirdymor cywir i gwsmeriaid. Dylai cwmnïau roi eu cynlluniau busnes yn glir yng nghyd-destun eu huchelgeisiau ar gyfer yr hirdymor, a bydd Ofwat yn archwilio sut i roi gwell eglurder rheoleiddiol ynglŷn â beth fydd yn digwydd mewn adolygiadau prisiau yn y dyfodol
- gwell gwerth amgylcheddol a chymdeithasol – dylai cwmnïau dŵr fod yn chwaraewyr allweddol yn eu cymunedau. Mae angen i ni gymell canlyniadau ac ymddygiadau cynaliadwy sy’n rhoi’r gwerth gorau, boed hynny’n gydweithredu â phartneriaid lleol neu weithio’n arloesol â chwsmeriaid a chymunedau.
- dealltwriaeth gliriach o gwsmeriaid a chymunedau – mae angen dull symlach, wedi’i dargedu’n fwy a mwy effeithiol arnom er mwyn cael barn cwsmeriaid. Mae Ofwat yn bwriadu gweithio gyda’r sector i gynnal ymchwil cwsmeriaid cydweithredol, er mwyn ategu gwaith y cwmnïau eu hunain gyda’u cwsmeriaid
- darparu gwelliannau drwy effeithlonrwydd ac arloesedd – mae angen i gwmnïau weithredu’n effeithlon i greu lle i wneud mwy dros eu cwsmeriaid a’r amgylchedd.Mae angen i’r adolygiad prisiau ysgogi gwelliannau o ddulliau arloesol a chofleidio data agored.
Mae’r sector dŵr yn wynebu heriau mawr ac mae angen iddo weithio mewn ffyrdd newydd i roi gwell gwerth i gymdeithas ac er mwyn lleihau costau – dyma’r adeg ar gyfer meddwl ffres a newid gwirioneddol.
Mae gan bawb ohonom rôl i’w chwarae mewn cyflawni’r uchelgeisiau hyn ac, ar gyfer Ofwat, mae hyn yn golygu parhau â’r sgyrsiau a ddechreuwyd llynedd a throi syniadau’n weithredu. Mae hyrwyddiad Ofwat o drafodaeth drwy ei ‘Labordy Syniadau’r Dyfodol’ wedi arwain at awgrymiadau cadarnhaol ynglŷn â sut y gall Ofwat gefnogi cydweithrediad ar draws y sector a grymuso cwmnïau i sicrhau’r canlyniadau gorau i gwsmeriaid a’r amgylchedd.
Bydd Ofwat yn parhau i wrando a gweithio gyda chwsmeriaid, cwmnïau, rheoleiddwyr eraill a’r rheini sydd â diddordeb ehangach yn y sector. Y nod yw cynllunio adolygiad prisiau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd David Black, Prif Weithredwr Dros Dro Ofwat:
“Rydym am i’r adolygiad prisiau ysgogi’r newid sydd ei angen i ddiwallu’r galw o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, disgwyliadau cynyddol cwsmeriaid, a phryderon ynglŷn â fforddiadwyedd. Rydym yn credu y gall y sector gyflawni mwy ar gyfer cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd, ond mae angen i bawb ohonom weithio’n wahanol er mwyn datgloi’r potensial hwn.
Gall cydweithio ag eraill o fewn a thu allan i’r sector roi canlyniadau sy’n well ac yn fwy cynaliadwy. Rydym yn rhannu syniadau nawr i archwilio gydag eraill sut y gall yr adolygiad prisiau wneud gwahaniaeth i gwsmeriaid a’r amgylchedd yn y dyfodol.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Dogfen lansio PR24
- Rydym yn croesawu ymatebion i’r ddogfen hon drwy e-bost yn: [email protected] a byddwn yn parhau â’r drafodaeth drwy bapurau gweithio, gweithdai a gweithgorau. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ymhellach y fframwaith adolygu prisiau cyn ein methodoleg drafft, sydd i fod i’w chyhoeddi yn ystod haf 2022
- Gallwch barhau i roi eich barn i ni drwy ein Labordy Syniadau’r Dyfodol.