PN 16/21: Mae cwsmeriaid dair gwaith yn fwy tebygol o dalu biliau â cherdyn credyd na gofyn am help

 

Dengys ymchwil a gomisiynwyd gan Ofwat fel rhan o #ListenCareShare, darn o waith i ddeall profiadau cwsmeriaid yn ystod y pandemig, fod cwsmeriaid dair gwaith yn fwy tebygol o dalu biliau â cherdyn credyd na gofyn am help.

Mae’r ymchwil yn dangos bod traean o gwsmeriaid yn cael trafferthion i dalu biliau’r cartref ac mae’r gyfran hon yn codi i dros hanner y cwsmeriaid (51%) pan edrychir ar y rheini sydd â phlant dan 11 oed. Mae pedwar o bob deg o gwsmeriaid (41%) yn poeni am arian dros y chwe mis nesaf.

Yn y cyd-destun hwn, mae’n peri pryder mai dim ond 15% o gwsmeriaid dŵr sy’n ymwybodol bod cwmnïau dŵr yn darparu cymorth ariannol yn ystod y pandemig. A dim ond 3% o dalwyr biliau a ddywedodd eu bod wedi derbyn unrhyw fath o gymorth ariannol ar gyfer dŵr yn ystod y pandemig.

Mae’r ymchwil newydd hwn yn amlygu’r angen cynyddol i gwmnïau dŵr fod yn fwy rhagweithiol mewn cynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth ariannol sydd ar gael i gwsmeriaid, fel y gall y rheini sydd â’r angen mwyaf gael help llaw.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod llawer o gwsmeriaid sy’n cael trafferthion ariannol yn profi hynny am y tro cyntaf ac felly efallai nad ydynt yn gwybod sut i gyrchu cymorth, neu nad yw cwmnïau’n ymwybodol ohonynt fel cwsmeriaid sydd angen help.

Dywedodd David Black, Prif Weithredwr Dros Dro Ofwat:

“Y tu ôl i’r ystadegau y mae’r realiti heriol a wynebir gan gymaint o gwsmeriaid heddiw. Mae’r storïau rydym wedi’u clywed drwy #ListenCareShare wedi ein hatgoffa bod effaith ariannol y pandemig hwn yn dal i frathu ac rydym yn dechrau cael darlun cliriach o beth mae hyn yn ei olygu a sut deimlad ydyw i gwsmeriaid.

“Mae cwsmeriaid yn gwneud penderfyniadau anodd, gyda rhai’n troi at gardiau credyd i dalu eu biliau. Mae angen i gwmnïau dŵr weithio i geisio canfod a darparu cymorth i’r rheini sydd fwyaf ei angen, yn arbennig yn y cyfnod digynsail hwn.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a’i ganfyddiadau ar ei wefan.

DIWEDD

  1. #ListenCareShare. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid dŵr er mwyn deall eu profiad dros y flwyddyn ddiwethaf, beth ddigwyddodd iddynt a sut deimlad oedd hynny. Rydym hefyd yn gwrando ar gwmnïau ac ar arbenigwyr er mwyn cael darlun llawnach a gwell wedi’i lywio gan eu mewnwelediad. Mae’r ffaith bod y sector dŵr yn gwneud popeth y gall i gefnogi a chyflawni ar gyfer cwsmeriaid yn bwysig i ni. Felly rydym yn archwilio beth yn rhagor y gellir ei wneud yn y cyfnod digynsail hwn er mwyn gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn cael yr help fydd yn gwneud gwahaniaeth iddynt. Ac rydym am rannu yr hyn rydym yn ei glywed – y syniadau da, y meysydd sydd angen sylw, a phethau eraill rydym ni ac eraill yn eu dysgu. Drwy ddull agored a chydweithredol, gallwn helpu i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid ledled y wlad yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt gan eu cwmni dŵr.
  2. Gallwch ymuno â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ListenCareShare. Byddem yn croesawu syniadau neu awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn ymateb i anghenion sy’n newid gan gwsmeriaid, gan gynnwys enghreifftiau o arfer gorau o’r sector a thu hwnt. Cysylltwch â ni drwy e-bost yn [email protected]
  3. Daw canfyddiadau’r ymchwil o arolwg ar-lein gyda 2,100 o dalwyr biliau. Cynhaliwyd yr arolwg gan Panelbase rhwng 26 Mawrth a 1 Ebrill 2021. Mae data wedi’i bwysoli i fod yn genedlaethol gynrychioliadol ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd canfyddiadau o’r arolwg hwn yn parhau i gael eu rhyddhau yn ystod y sgwrs. Cyhoeddir y canlyniadau llawn ar ddiwedd yr ymgyrch. Cysylltwch â ni drwy e-bost yn [email protected] os hoffech ragor o fanylion am yr arolwg hwn neu ei ganfyddiadau.
  4. Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa rai o’r camau hyn, os o gwbl, y maent wedi eu cymryd yn ystod y chwe mis diwethaf. Gwnaethom ganfod bod 35% wedi cymryd o leiaf un o’r camau isod:
  • Wedi defnyddio cardiau credyd i dalu biliau (12%)
  • Wedi gofyn i deulu/ffrindiau am gymorth ariannol (10%)
  • Wedi defnyddio gorddrafft i dalu biliau (10%)
  • Wedi chwilio ar-lein am gymorth ariannol (7%)
  • Wedi syrthio ar ei hôl hi gyda biliau cyfleustodau (6%)
  • Wedi siarad â chwmnïau talu biliau ynglŷn â chymorth ariannol (4%)
  • Wedi codi benthyciadau tymor byr (4%)
  • Wedi defnyddio banciau bwyd (4%)
  • Wedi defnyddio cynlluniau gwyliau morgais (4%)
  • Wedi syrthio ar ei hôl hi gyda thaliadau rhent/morgais (3%)
  • Wedi derbyn math arall o gymorth ariannol (2%)
  • Wedi defnyddio elusennau dyled ar gyfer cymorth ariannol (1%)

Defnyddiodd rhai ymatebwyr fwy nag un o’r rhain. Dywedodd 65% nad oeddent wedi cymryd unrhyw un o’r camau.