PN 26/22 Ofwat yn cadarnhau cystadleuaeth mynediad agored newydd ar gyfer arloeswyr a’u bod yn awyddus i ehangu’r Gronfa Arloesedd hyd at 2030

 
  • Cystadleuaeth “mynediad agored” newydd (i’w lansio yn gynnar yn 2023) i ddarparu £4 miliwn ar gyfer ceisiadau hyd at £500,000 – a fydd yn galluogi i arloeswyr o unrhyw sector – er enghraifft technoleg ariannol, gweithgynhyrchu a deunyddiau, grwpiau cymunedol a llywodraeth leol – wneud cais am syniadau arloesol ar gyfer y sector dŵr
  • Bydd yr Her Water Breakthrough nesaf yn lansio yn yr Hydref 2022 gyda chyfanswm o £38 miliwn ar gael ar gyfer cwmnïau dŵr arloesol a’u partneriaid
  • Mae Ofwat yn cyhoeddi pecyn pennawd o newidiadau i gystadlaethau arloesedd dŵr er mwyn ehangu cyfranogiad ac annog syniadau mwy arloesol
  • Mae Cronfa Arloesedd gwerth £200 miliwn y Rheoleiddiwr yn cymell ac yn gwobrwyo arloesedd ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau dŵr i gwsmeriaid, yr amgylchedd a chymdeithas

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022 (Llundain) – Mae Ofwat, rheoleiddiwr economaidd gwasanaethau dŵr yng Nghymru a Lloegr wedi cyhoeddi cystadleuaeth “mynediad agored” i arloeswyr wrth i’w Cronfa Arloesedd gwerth £200 miliwn esblygu i annog mwy o syniadau arloesol i drawsnewid gwasanaethau dŵr i gwsmeriaid, yr amgylchedd a chymdeithas.

Mae cronfa arloesedd Ofwat yn cymell a gwobrwyo arloesedd ar y cyd yn y diwydiant dŵr sy’n cyflawni’r amcanion allweddol ar gyfer y diwydiant yn seiliedig ar un (neu fwy) o themâu arloesedd Ofwat:

  • addasu i newid yn yr hinsawdd a chyflawni sero net allyriadau;
  • diogelu a gwella’r amgylchedd;
  • cyflawni gwytnwch gweithredol hirdymor;
  • cyflawni gwasanaethau yn well ar gyfer cwsmeriaid a chymdeithas.

Yn ei blwyddyn gyntaf, dyfarnodd y gronfa £63 miliwn i brosiectau sy’n amrywio o ddatrysiadau biobeirianneg ar gyfer llygredd amonia a ffosfforws i gael gwared ar lygrwyr o ddŵr a chreu economi gylchol ar gyfer cemegau cyfyngedig a defnyddio, mentrau dal carbon er mwyn llai allyriadau sy’n gysylltiedig â diwydiant i gyflawni targedau’r diwydiant dŵr o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2030, a phrosiectau ymchwil arloesol i ddatblygu hydrogen gwyrdd o garthion, i greu dewisiadau ynni glân amgen.

Mae Ofwat wedi datgan sut y bydd y gronfa arloesedd yn esblygu i gyflawni blaenoriaethau cwsmeriaid, yr amgylchedd a diwydiant yn y blynyddoedd nesaf: cystadleuaeth £38 miliwn a fydd yn agor yn yr hydref 2022, gyda’r gystadleuaeth mynediad agored gwerth £4 miliwn yn agor yn gynnar yn 2023 – a pharhau i gynnal y gystadleuaeth hyd at 2030. Mae’n dilyn ymgynghoriad gan y rheoleiddiwr ar gyfeiriad y gronfa yn y dyfodol – a gweithio i adolygu’r gronfa ac arloesedd yn y sector dŵr.

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr, Strategaeth, Cyllid a Seilwaith yn Ofwat:

“Mae angen mwy o arloesedd arnom yn y sector dŵr i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol sy’n ei wynebu.  Mae’r Gronfa Arloesedd wedi ysbrydoli cwmnïau lluosog i gydweithio yn y sector dŵr a thu hwnt.  Mae uchelgais y cynigion llwyddiannus hyd yma yn arddangos ymrwymiad y sector i greu system ddŵr wydn er budd yr amgylchedd a chwsmeriaid.  Yn ystod y tair blynedd nesaf byddwn yn dosbarthu tua £120 miliwn i fwy o fentrau arloesol.  Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd yr Her Water Breakthrough yn dychwelyd yn yr hydref, yn ogystal â chystadleuaeth newydd i arloeswyr o unrhyw sector sydd â syniadau a all drawsnewid y diwydiant dŵr mewn ffordd gadarnhaol i ddilyn yn gynnar yn 2023.  Rydym hefyd yn ymgynghori i barhau i ddarparu’r gronfa hyd at 2030.”

YR HER WATER BREAKTHROUGH YN DYCHWELYD YN YR HYDREF 2022

Bydd Her 3 Water Breakthrough yn lansio ar 3 Hydref 2022 – gyda ffrwd Catalyst £8 miliwn a ffrwd Transform gwerth £30 miliwn – a bydd yn cael ei chynnal yn flynyddol. Gall ymgeiswyr i’r ffrwd Catalyst wneud cais am rhwng £500,000 a £2 filiwn, a gall ymgeiswyr i’r ffrwd Transform wneud cais am rhwng £2 filiwn a £10m.

CYSTADLEUAETH MYNEDIAD AGORED 2023

Yn lansio yn gynnar yn 2023, bydd elfen cystadleuaeth mynediad agored y gronfa yn fenter newydd sy’n cael ei lansio mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn dilyn y prosiect peilot.  Yn wahanol i’r Her Water Breakthrough, ni fydd gofyniad i sefydliadau weithio mewn partneriaeth na derbyn nawdd gan gwmni dŵr i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Bydd yn targedu arloesedd cam cynnar yn bennaf, gan ddyrannu tua £4 miliwn yn flynyddol, gyda hyd at £500,000 ar gael ar gyfer ceisiadau unigol.

Fel gyda cheisiadau eraill i’r Gronfa Arloesedd, bydd angen i bob cais i’r gystadleuaeth mynediad agored alinio gydag un neu fwy o bedair thema arloesedd Ofwat.

ARLOESEDD AT 2025 A THU HWNT

Mae Ofwat yn cynnig parhau i gynnal y gronfa arloesedd hyd at o leiaf fis Mawrth 2030. Mae hyn yn amodol ar ymgynghoriad y rheoleiddiwr ar eu methodoleg drafft ar gyfer adolygiad prisiau 2024. Yn ystod y misoedd nesaf bydd Ofwat yn gweithio gyda’r sector dŵr ac arloeswyr eraill i edrych ar sut y gallai’r gronfa barhau i ysgogi arloesedd hyd at 2030.

EIN HADRODDIAD LLAWN AR YR YMGYNGHORIAD YN YR HYDREF

Mae Ofwat yn bwriadu cyhoeddi dogfen ategol lawn o benderfyniadau’r ymgynghoriad yn yr hydref 2022, a fydd yn cynnwys gwybodaeth bellach am y penderfyniadau pennawd.  Bydd yn cynnwys mwy o fanylion am y gystadleuaeth mynediad agored newydd, a fydd yn cael ei datblygu mewn ymgynghoriad pellach gyda’r sector dŵr yn y misoedd nesaf.​

I gael gwybod mwy am Gronfa Arloesedd Ofwat ac i gofrestru diddordeb mewn cystadlaethau yn y dyfodol, ewch i waterinnovation.challenges.org

-DIWEDD-

Nodiadau i Olygyddion

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch ag Andrew McKay ([email protected]) a Robyn Margetts ([email protected]), +44 (0)20 7754 3610

Penderfyniadau pennawd

Mae pecyn pennawd llawn Ofwat o welliannau ar gael yn ‘Dogfen penderfyniad wedi ymgynghoriad ar y gronfa arloesi – dull gweithredu ar gyfer 2022-25’ ar wefan Ofwat

Mae Ofwat yn ymgynghori yn awr ar sut y bydd yn pennu lefelau gwasanaeth a biliau cwmnïau dŵr ar gyfer 2025-2030. Mae hyn yn cynnwys eu cynigion i annog mwy o arloesedd yn y sector – gan gynnwys parhau i gynnal y gronfa arloesedd hyd at 2030.  Mae ymgynghoriad methodoleg drafft PR24 ar gael ar wefan Ofwat.

THEMÂU DIWYGIEDIG Y GRONFA ARLOESEDD AR GYFER 2022-25

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, mae’r pedair thema yn y Gronfa Arloesedd Dŵr wedi’u diwygio i adlewyrchu’n well strategaeth arloesedd dŵr 2050,  , blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a datganiad polisi strategol llywodraeth y DU.

  • Ymateb ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd gan gynnwys cyflawni uchelgeisiau’r sector o garbon sero net, sero gwastraff a sero dadleoli
  • Diogelu a gwella’r amgylchedd a systemau naturiol, i ddiogelu cwsmeriaid heddiw a’r dyfodol rhag effeithiau tywydd eithafol a llygredd
  • Cyflawni gwytnwch gweithredol tymor hir a deall risgiau seilwaith i gwsmeriaid a’r amgylchedd, canfod datrysiadau i liniaru’r rhain mewn ffyrdd cynaliadwy ac effeithlon
  • Profi ffyrdd newydd o gynnal gweithgareddau craidd er mwyn cyflawni’r gwasanaethau y mae cwsmeriaid a chymdeithas eu heisiau, y rhai maent yn eu disgwyl ac yn eu gwerthfawrogi yn awr ac i’r dyfodol.

Cronfa Arloesedd Ofwat

Mae Ofwat wedi sefydlu Cronfa Arloesedd gwerth £200 miliwn i ddatblygu capasiti’r sector dŵr i arloesi, ei alluogi i gyflawni anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.  Mae’n annog ffyrdd newydd o weithio sy’n mynd y tu hwnt i arferion arloesedd busnes fel arfer yn y diwydiant dŵr, yn benodol, cynyddu a gwella cydweithrediad a datblygu partneriaethau o fewn a thu hwnt i’r sector dŵr.  Anogir ceisiadau gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ochr yn ochr â phartneriaethau gyda phrifysgolion a sefydliadau, manwerthwyr, busnesau newydd, cwmnïau technoleg, elusennau a busnesau bach mewn sectorau fel ynni, gweithgynhyrchu, iechyd neu wasanaethau ariannol

Cafodd Her Innovation in Water, Her 1 Water Breakthrough a Her 2 Water Breakthrough (ffrydiau Catalyst a Transform), eu cyflawni gan yr arbenigwyr gwobrau her Challenge Works (enw newydd Heriau Nesta) mewn partneriaeth ag Arup ac Isle Utilities. Yn dilyn y cystadlaethau peilot hyn, derbyniodd Ofwat 40 a mwy o geisiadau mewn ymateb i’w ymgynghoriad ar gyfeiriad y gronfa yn y dyfodol.

Mae’r gronfa arloesedd yn rhan o ddull gweithredu Ofwat at arloesedd yn y sector dŵr. Mae Ofwat, ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed hefyd yn cynnal StreamLine, gwasanaeth ar y cyd ar gyfer arloeswyr a busnesau i dderbyn cyngor rheoleiddiol anffurfiol

I gysylltu â swyddfa’r wasg yn Ofwat, ffoniwch 07458 126271 

Gwerthusiad o’r gronfa ac arloesedd yn y sector

Mae Ofwat a’i bartneriaid wedi adolygu blwyddyn gyntaf y gronfa arloesedd ac wedi nodi argymhellion sy’n hysbysu penderfyniadau terfynol y rheoleiddiwr – a gwaith pellach ar ddyluniad cystadlaethau yn y dyfodol. Mae copi o’r adroddiad ar gael yn: https://www.ofwat.gov.uk/regulated-companies/innovation-in-the-water-sector/innovation-fund-pilot-year-report/

Comisiynodd Ofwat y Ganolfan Gwasanaethau Gwerthuso Strategaeth a Gwerthuso (CSES) i gynnal ymchwil ar lefel yr arloesedd mewn cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr – a’u cadwyn gyflenwi ehangach – cyn y cyflwynwyd y gronfa.  Mae copi o’r adroddiad ar gael yn: https://www.ofwat.gov.uk/regulated-companies/innovation-in-the-water-sector/innovation-baseline-in-the-water-sector-report/

Ynglŷn â Challenge Works

Challenge Works yw enw newydd Heriau Nesta. Rydym yn fenter gymdeithasol a grëwyd gan Nesta, asiantaeth arloesedd y DU. Ers degawd rydym wedi sefydlu ein hunain fel arweinydd rhyngwladol ym myd dylunio a chyflawni gwobrau her effaith uchel sy’n cymell arloesedd arloesol er budd cymdeithas.  Yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal mwy na 80 o wobrau, wedi dosbarthu £84 miliwn o gyllid ac wedi ymgysylltu â 12,000 o arloeswyr.

Mae’r byd ei hun ar bwynt tyngedfennol.  Gyda’n gilydd, rydym yn wynebu problemau cyfansawdd lluosog, ond mae cyfle aruthrol i ganfod datrysiadau ac ehangu ffiniau arloesi.  Teimlir effaith y newid yn yr hinsawdd yn llymach bob blwyddyn, ond gall arloesedd liniaru’r effaith hon; gellir gwyrdroi’r cynnydd mewn cyflyrau iechyd cronig a’r anghydraddoldeb byd-eang ehangach o ran mynediad at ofal iechyd; mae’r byd sy’n fwyfwy cymhleth, cysylltiedig a digidol yn cyflwyno llu o heriau cymdeithasol ond mae hefyd yn golygu bod newidiadau technolegol cyflym, cadarnhaol a all newid bywydau yn bosibl – o gael eu defnyddio a’u cyfeirio’n briodol.

Credwn fod modd datrys pob her.  Mae Challenge Works yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau, elusennau a llywodraethau o amgylch y byd i ddarganfod entrepreneuriaid a’u syniadau arloesol a all ddatrys heriau mwyaf ein cyfnod.

Mae gwobrau Challenge yn hyrwyddo arloesedd agored drwy gystadleuaeth.  Rydym yn nodi problem sydd angen ei datrys, ond nid beth yw’r datrysiad hwnnw.   Rydym yn cynnig cymhellion arian parod mawr i annog arloeswyr amrywiol i ddefnyddio eu dyfeisgarwch i ddatrys y broblem.  Mae’r datrysiadau mwyaf addawol yn cael eu gwobrwyo â chyllid sbarduno a chymorth arbenigol i feithrin capasiti, er mwyn iddynt allu profi eu heffaith a’u heffeithiolrwydd.  Y syniad arloesol cyntaf neu orau i ddatrys y broblem sy’n ennill.  Mae’r dull hwn yn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored ar gyfer arloeswyr anhysbys nad ydynt wedi’u profi o’r blaen er mwyn gallu defnyddio’r syniadau gorau, waeth beth yw eu tarddiad, ar gyfer yr heriau byd-eang anoddaf.  Ymwelwch â ni yn challengeworks.org

Ynglŷn ag Arup

Mae Arup yn gwmni annibynnol o ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr technegol, sy’n gweithio ar draws bob agwedd ar amgylchedd adeiledig heddiw.  Gyda’n gilydd, rydym yn cynorthwyo ein cleientiaid i ddatrys eu heriau mwyaf cymhleth – gan droi syniadau cyffrous yn realiti diriaethol wrth i ni ymdrechu i ganfod ffordd well a siapio byd gwell.  Gyda chymuned o fwy na 1700 o weithwyr proffesiynol ym maes dŵr, mae Arup yn arwain syniadau byd-eang ar draws meysydd allweddol fel arloesedd, gwytnwch, carbon sero net a ffyrdd cynaliadwy o reoli dŵr.

Ynglŷn ag Isle Utilities

Mae Isle yn dîm rhyngwladol o wyddonwyr, peirianwyr, arbenigwyr busnes a rheoleiddiol annibynnol gydag uchelgais gyffredin i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol drwy ddatblygu technolegau, datrysiadau ac arferion arloesol.