PN 33/21: Gwenllian Roberts yn ymuno ag Ofwat fel ei Cyfarwyddwr newydd i Gymru

 

Mae Ofwat wedi cyhoeddi penodiad Gwenllian Roberts fel ei Cyfarwyddwr newydd i Gymru o’r 1af o Dachwedd 2021. Penodwyd Gwenllian i’r rôl i arwain swyddfa Gymreig Ofwat ochr yn ochr â chyflawni adolygiad prisiau 2024 yng Nghymru.

Mae’r rôl sydd newydd ei chreu yn dod ar adeg dyngedfennol i’r diwydiant dŵr yng Nghymru ac mae’n rhoi cyfle i feithrin ymddiriedaeth a hyder pellach gyda chwsmeriaid, rhanddeiliaid a chymdeithas ehangach yng Nghymru. Ochr yn ochr â meithrin perthynas gref a chydweithio ar draws Ofwat a sefydliadau eraill, bydd Gwenllian hefyd yn arwain y gwaith o gyflawni gwaith rheoleiddio Ofwat yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol yn ogystal ag ymgysylltu ar ddatganiad polisi strategol newydd Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn ymuno â thîm arweinyddiaeth ehangach Ofwat.

Yn flaenorol, roedd Gwenllian yn Brif Swyddog Rhanbarthol i Lywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru lle bu’n hyrwyddo dull cydweithredol o ddatblygiad economaidd rhanbarthol ac arweiniodd ar fuddsoddiadau ynni carbon isel mawr ac ymateb i ymadael â’r UE.

Cyn hynny, hi oedd y Dirprwy Gyfarwyddwr Ynni a Dur yng Nghymru yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru ac yn agos gyda Llywodraeth y DU, diwydiant, rheoleiddwyr a chyrff allweddol eraill. Mae gan Gwenllian dros 20 mlynedd o brofiad mewn ynni, yr amgylchedd, datblygu cynaliadwy, a datblygu economaidd rhanbarthol ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

Wedi’i geni yng ngogledd Cymru, mae Gwenllian yn siaradwr Cymraeg rhugl ac mae wedi bod yn eiriolwr llafar dros sicrhau manteision i bobl a chymunedau o ddatblygiadau ynni carbon isel yng Nghymru.

Dywedodd yr Uwch Gyfarwyddwr, John Russell, wrth gyhoeddi ei phenodiad:

“Rydym wrth ein bodd bod  Gwenllian yn ymuno ag Ofwat ac am arwain ein gwaith yng Nghymru. Mae’r rôl newydd hon yn dangos ein hymrwymiad i Gymru. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i feithrin perthynas gref â chymunedau ac arweinwyr i sicrhau bod deddfwriaeth a pholisi Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn ein dull rheoleiddio. Bydd profiad Gwenllian o weithio ar faterion amgylcheddol yn sicrhau bod y diwydiant dŵr yn parhau i wneud cynnydd ar faterion mor bwysig.”

Dywedodd Gwenllian Roberts:

“Dŵr yw un o asedau naturiol pwysicaf Cymru ac mae’n rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n hunaniaeth genedlaethol, felly rwy’n falch iawn o fod yn ymuno ag Ofwat ar adeg mor allweddol i’r diwydiant dŵr yng Nghymru. Bydd gwella perfformiad amgylcheddol a sicrhau bod cwsmeriaid wrth wraidd y sector yn hynod bwysig a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ddod â phobl at ei gilydd i weithio ar y nodau pwysig hyn.”