- Mae trydedd rownd Water Breakthrough Challenge Ofwat bellach ar agor i sbarduno arloesi yn y sector dŵr, gyda hyd at £38 miliwn ar gael.
- Mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei rhedeg gan Ofwat mewn partneriaeth â Challenge Works a chefnogaeth gan Arup ac Isle Utilities, eisoes wedi cydnabod nifer o enillwyr o’r ddwy rownd gyntaf, gan gynnwys prosiectau arloesol i atal gollwng dŵr, helpu cwsmeriaid bregus i arbed ar eu biliau, a lleihau nwyon tŷ gwydr.
- Bydd y gystadleuaeth yn gwahodd syniadau fydd yn cyflwyno newid trawsnewidiol eang o fudd i gwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.
Dydd Llun 3 Hydref 2022 – Mae trydedd rownd cystadleuaeth arloesol Ofwat – y Water Breakthrough Challenge – yn agor heddiw er mwyn annog arloesi a chydweithrediad i drawsnewid gwasanaethau dŵr, gyda hyd at £38 miliwn o gyllid ar gael.
Nod y Water Breakthrough Challenge, sy’n cael ei rhedeg gan Ofwat mewn partneriaeth â Challenge Works, Arup ac Isle Utilities, yw annog prosiectau sy’n helpu i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sector dŵr, fel cyrraedd sero net, diogelu ecosystemau naturiol a lleihau gollwng dŵr, yn ogystal ag achub ar gyfleoedd i ddefnyddio data agored a rhoi gwerth i gymdeithas.
Mae rowndiau blaenorol y gystadleuaeth eisoes wedi gweld nifer o brosiectau arloesol yn cael cyllid am eu potensial i fod o fudd i gwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd. Er enghraifft, enillodd brosiect Triple Carbon Reduction Anglian Water dros £3.5 miliwn yn y Water Breakthrough Challenge gyntaf ar gyfer defnyddio technoleg newydd i ddileu allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac enillodd brosiect National Leakage Research and Test Centre (NLRTC) Northumbrian Water £4.3 miliwn yn yr ail Water Breakthrough Challenge i brofi ffyrdd newydd o atal gollwng dŵr o dan amodau “bywyd go iawn”.
Derbyniodd un o enillwyr eraill yr ail Water Breakthrough Challenge – Support for All (hefyd gan Northumbrian Water) – dros £630,000 ar gyfer eu cynllun i greu llwyfan technoleg sy’n cyfuno data ar gwsmeriaid bregus ar draws cwmnïau cyfleustodau i gyrraedd a helpu pobl mewn angen yn well. Gallai hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i deuluoedd sy’n wynebu costau cyfleustodau uwch dros y gaeaf yn y dyfodol.
Bydd y rownd gyllid newydd, sy’n lansio heddiw, ar gael drwy ddwy ffrwd wahanol:
- Bydd y Catalyst stream, sy’n cau ar ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022, yn darparu £8 miliwn i ymgeisiwyr sy’n chwilio am rhwng £150,000 a £2 miliwn o gyllid.
- Bydd y Transform stream yn darparu £30 miliwn i ymgeiswyr sy’n chwilio am rhwng £2 miliwn a £10 miliwn, gyda’r cam ymgeisio cyntaf yn cau ar ddydd Mercher 9 Tachwedd 2022.
Disgwylir cyhoeddi enillwyr y Catalyst stream ym mis Ebrill 2023 ac enillwyr y Transform stream ddiwedd mis Mai 2023.
Fel gyda rowndiau blaenorol, rhaid i geisiadau ar gyfer y Water Breakthrough Challenge gael eu cyflwyno gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ond gellir gwneud hyn mewn partneriaeth â sefydliadau o fewn a’r tu allan i’r sector dŵr. Gallai hyn gynnwys prifysgolion a sefydliadau, siopau, busnesau newydd neu fusnesau bach mewn sectorau fel ynni, gweithgynhyrchu, iechyd neu’r gwasanaethau ariannol.
Bydd cyllid pellach ar gael yn gynnar yn 2023 drwy’r Water Discovery Challenge, sy’n gystadleuaeth newydd i ddenu syniadau mwy amrywiol a thrawsnewidiol o’r tu allan i’r sector. Yn wahanol i’r Water Breakthrough Challenge, ni fydd angen i sefydliadau bartneru na chael eu noddi gan gwmni dŵr i ymgeisio, yn hytrach bydd arloeswyr yn cael eu gwahodd o wahanol sectorau’n amrywio o ynni i amaethyddiaeth er mwyn cyfuno eu profiad a’u harbenigedd i greu system ddŵr uwch-dechnoleg gadarn ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Water Breakthrough Challenge yn cael ei hariannu gan Gronfa Arloesi £200 miliwn Ofwat, fel rhan o nod gan y corff rheoleiddio i greu sector dŵr arloesol a chydweithredol sy’n cwrdd ag anghenion cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn y blynyddoedd i ddod. Bwriedir cynnal rowndiau pellach o’r Water Breakthrough Challenge yn 2023 a 2024.
Meddai John Russell, un o Uwch-Gyfarwyddwyr Ofwat:
“Mae’r haf eleni wedi dangos pa mor aruthrol bwysig yw dŵr a bydd y gystadleuaeth hon yn dod â newidiadau trawsnewidiol i helpu i ddiogelu a rheoli’r adnodd hanfodol hwn yn well. Mae gwerth dwy flynedd o syniadau chwyldroadol gan enillwyr y Water Breakthrough Challenge yn dangos bod modd mynd i’r afael â heriau cynyddol hyn. Drwy’r atebion arloesol hyn, gall y diwydiant dŵr erbyn hyn ragweld newidiadau tywydd a thymheredd yn well, canfod ac atal problemau seilwaith ac – yn bwysicach nad dim – helpu cwsmeriaid i leihau eu biliau.
“Gyda lansio rownd bresennol y Water Breakthrough Challenge, edrychwn ymlaen at weld mwy fyth o brosiectau cyffrous sy’n harneisio’r datblygiadau gwyddonol a thechnolegol diweddaraf i geisio datrys rhai o broblemau mwyaf taer ein hoes – a chael effaith ystyrlon ar yr amgylchedd ac ar gymdeithas. Rydym hefyd yn gyffrous am y flwyddyn nesaf pan fyddwn yn lansio ein cystadleuaeth mynediad agored gyntaf i wahodd syniadau gan unrhyw sector i ateb yr heriau anodd sy’n wynebu dŵr heddiw ac yn y dyfodol.”
Mae mwy o wybodaeth am y Water Breakthrough Challenge yma: waterinnovation.challenges.org/breakthrough3/
-DIWEDD-
Nodiadau i’r Golygydd
Ar gyfer unrhyw ymholiad gan y cyfryngau, ebostiwch Alice Jaffe – [email protected] neu Andrew McKay
Amdan Gronfa Arloesi Ofwat
Mae Ofwat wedi sefydlu Cronfa Arloesi gwerth £200 miliwn i dyfu capasiti’r sector dŵr i arloesi fel y bo’n fwy parod i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn y dyfodol. Y nod yw annog ffyrdd newydd o weithio sy’n fwy na dim ond arferion arloesi busnes-fel-arfer yn y sector dŵr, gyda ffocws penodol ar gynyddu a gwella cydweithrediad a chreu partneriaethau oddi mewn a’r tu allan i’r sector dŵr. Anogir ceisiadau gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ochr yn ochr â phartneriaethau gyda phrifysgolion a sefydliadau, siopau busnesau newydd, cwmnïau technoleg, elusennau, a busnesau bach mewn sectorau fel ynni, gweithgynhyrchu, iechyd neu’r gwasanaethau ariannol.
Cafodd yr Innovation in Water Challenge, Water Breakthrough Challenge 1 a’r Water Breakthrough Challenge 2 (Catalyst and Transform streams) eu darparu gan arbenigwyr Challenge Prizes mewn partneriaeth ag Arup ac Isle Utilities. Yn dilyn y cystadlaethau peilot hyn, derbyniodd Ofwat 40 cyflwyniad mewn ymateb i’w ymgynghoriad ar gyfeiriad y Gronfa i’r dyfodol. Ym mis Gorffennaf 2022, disgrifiodd Ofwat ei benderfyniadau pennawd ar gyfer y Gronfa Arloesi rhwng 2022-25 Ynghyd â lansio Water Breakthrough Challenge 3, mae Ofwat wedi cyhoeddi ‘Innovation fund – approach for 2022-25 companion decision document’, sy’n rhoi mwy o wybodaeth am y prif benderfyniadau hyn.
Mae Ofwat wedi ymgynghori ar ei gynigion ar gyfer ymestyn y gronfa arloesi ar ôl 2025 yn ‘Creating tomorrow, together: consulting on our methodology for PR24’. Bydd yn cadarnhau ei benderfyniad terfynol yn Rhagfyr 2022.
Mae’r gronfa arloesi’n rhan o sut y bydd Ofwat yn mynd ati i sicrhau arloesi yn y sector dŵr. Mae Ofwat, gyda’r Environment Agency a’r Drinking Water Inspectorate hefyd yn rhedeg Streamline – gwasanaeth ar y cyd i arloeswyr a busnesau’n rhoi cyngor rheoleiddio anffurfiol.
I gysylltu â swyddfa’r wasg Ofwat, ffoniwch 07458 126271
Amdan Challenge Works
Challenge Works yw’r enw newydd ar Nesta Challenges. Menter gymdeithasol wedi ein sefydlu gan asiantaeth arloesi’r DU, Nesta, ydym ni. Am ddegawd, rydym wedi sefydlu ein hunain fel arweinydd byd-eang mewn dylunio a darparu gwobrau her pwysig sy’n sbarduno arloesi trawsnewidiol er lles cymdeithas. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi rhedeg dros 80 o wobrau, dosbarthu £84m mewn cyllid ac ymgysylltu â 12,000 o arloeswyr.
Mae’r byd ar groesffordd dyngedfennol. Gyda’n gilydd, wynebwn nifer o broblemau gwaethygol ond mae cyfle aruthrol i ni ddod o hyd i atebion ac ehangu ein gorwelion arloesi. Teimlwn effaith y newid yn yr hinsawdd yn waeth pob blwyddyn ond gall arloesi liniaru’r effaith; gallwn wrthdroi’r twf mewn cyflyrau iechyd cronig a’r cynnydd mewn anghydraddoleb byd-eang o ran derbyn gofal iechyd; mae byd sy’n gynyddol fwy cymhleth, cysylltiol a digidol yn cyflwyno nifer o heriau i gymdeithas ond hefyd yn golygu bod newid technolegol chwim, positif sy’n gweddnewid bywydau’n bosib – o gael ei harneisio a’i gyfeirio’n iawn.
Credwn nad oes dim her sy’n annatrys. Mae Challenge Works yn partneru gyda sefydliadau, elusennau a llywodraethau o gwmpas y byd i ddod o hyd i entrepreneuriaid ac atebion arloesol a allai ddatrys heriau mwyaf ein hoes.
Mae Challenge Prizes yn hyrwyddo arloesi agored drwy gystadleuaeth. Cyflwynwn y broblem sydd angen ei datrys, ond nid beth ddylai’r ateb fod. Cynigiwn gymhelliad ariannol mawr i annog arloeswyr i ddefnyddio eu dyfeisgarwch i ddatrys y broblem. Mae’r atebion mwyaf addawol yn cael eu gwobrwyo gyda chyllid ‘hadu’ a chymorth arbenigol i ehangu er mwyn profi eu heffaith a’u heffeithiolrwydd. Yr ateb arloesol cyntaf neu orau i ddatrys y broblem sy’n ennill. Mae’r dull yma’n rhoi tegwch cyfle i arloeswyr anhysbys na chawsant eu profi’n flaenorol fel bo’r syniadau gorau, o bla le bynnag y maen nhw’n dod, yn cael eu cymhwyso i’r heriau byd-eang anoddaf. I gael gwybod mwy ewch i challengeworks.org
Amdan Arup
Cwmni annibynnol o ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr technegol, yn gweithio ar draws pob agwedd ar yr amgylchedd adeiliedig heddiw, yw Arup Gyda’n gilydd, helpwn ein cleientiaid i ddatrys eu heriau mwyaf cymhleth – gan droi syniadau cyffrous yn realiti ar y ddaear wrth i ni ganfod ffordd well a chreu byd gwell. Gyda chymuned broffesiynol o dros 1700 o weithwyr dŵr, mae Arup yn arwain ar y syniadau diweddaraf drwy’r byd mewn meysydd allweddol fel arloesi, gwydnwch, carbon sero net a rheoli dŵr yn gynaliadwy.
Amdan Isle Utilities
Tîm byd-eang o wyddonwyr, peirianwyr ac arbenigwyr busnes a rheoleiddio annibynnol yw Isle, gyda nod unfryd cyffredin i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gadarnhaol drwy gyflwyno technoleg, atebion ac arferion arloesol.