PN 37/22 Cynnydd o 33% yn nifer y cwsmeriaid sy’n cael trafferth talu eu bil dŵr

 

Mae ymchwil newydd gan Ofwat yn dangos bod mwy o gwsmeriaid yn cael trafferth gyda biliau’r cartref a bod dwy ran o dair yn disgwyl i’w sefyllfa waethygu yn y flwyddyn sydd i ddod. Er mwyn ceisio ymdopi, mae llawer yn benthyca arian gan ffrindiau a theulu, yn cymryd benthyciadau masnachol neu’n mynd i fwy o ddyled. Yn frawychus, mae 75% o bobl iau (18-34 oed) yn dweud eu bod yn cael trafferth talu biliau’r cartref ‘weithiau’ neu’n amlach.

 

Ers adroddiad Costau Byw – Ton 1 Ofwat (Mai 2022) bu cynnydd o draean yn nifer y cwsmeriaid sy’n dweud eu bod yn cael trafferth talu eu bil dŵr ar hyn o bryd, i fyny o 15% i 20%.Ers adroddiad Costau Byw – Ton 1 Ofwat (Mai 2022) bu cynnydd o draean yn nifer y cwsmeriaid sy’n dweud eu bod yn cael trafferth talu eu bil dŵr ar hyn o bryd, i fyny o 15% i 20%. Er bod cyfran yr ymatebwyr sy’n derbyn cymorth ariannol gan gwmnïau dŵr wedi cynyddu o 6% i 9%, bu gostyngiad hefyd o 31% i 28% yn y gyfran sy’n ymwybodol bod cymorth ariannol ar gael gan gwmnïau dŵr.

 

Daw adroddiad heddiw flwyddyn ar ôl cynnal yr arolwg Sbotolau at Gwsmeriaid cyntaf ar y cyd gan Ofwat a CCW ac mae’n datgelu, ers hynny, bod nifer y cwsmeriaid sydd wedi cael trafferth talu eu biliau cartref wedi mwy na dyblu, o 12% i 25%.

Dywedodd 49% o’r ymatebwyr i’r arolwg presennol hwn y byddent yn ‘bryderus’ pe bai cynnydd o £25 yng nghostau’r cartref. Dywedodd 40% o dalwyr biliau sydd wedi cael trafferth talu biliau ‘drwy’r amser’ eu bod yn teimlo’n isel eu hysbryd, o gymharu â 6% o bobl nad oedd ‘byth’ wedi cael trafferth talu eu biliau.

Mae’n debygol y bydd anawsterau ariannol cwsmeriaid yn parhau, yn enwedig wrth i dymor y Nadolig nesáu a disgwylir i gostau bwyd, ynni, tai a chostau eraill barhau’n uchel. Felly, mae Ofwat yn ailadrodd ein galwad i gwmnïau dŵr wneud popeth o fewn eu gallu i helpu cwsmeriaid sy’n fregus yn ariannol ac yn cael trafferth talu eu bil dŵr.

Dywedodd Dr Claire Forbes, Uwch Gyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol yn Ofwat:

“Rydym yn gwybod o ymchwil blaenorol bod llawer o gwsmeriaid yn cael trafferth gyda biliau cyfleustodau. Fel y mae adroddiad heddiw yn pwysleisio, mae’r straen ariannol hwn yn parhau ac, i lawer, yn gwaethygu. Wrth i’r gaeaf agosáu, rhaid i gwmnïau dŵr a’r sector cyfan sicrhau eu bod yn cefnogi eu cwsmeriaid ac yn eu hysbysu o’r cymorth sydd ar gael. Byddwn yn parhau i wrando ar bryderon cwsmeriaid, monitro pa mor dda y mae cwmnïau dŵr yn ymateb a chymryd camau pellach lle bo angen.”

Yn ddiweddar cyhoeddodd Ofwat, ynghyd â CCW, lythyr ar y cyd gan David Black, Prif Weithredwr Ofwat ac Emma Clancy, Prif Weithredwr CCW, at gwmnïau dŵr a dŵr gwastraff yn gofyn iddynt gynyddu cymorth ariannol i gwsmeriaid. Disgwyliwn weld cwmnïau dŵr yn cymryd camau brys i gefnogi’r rheini sy’n cael trafferth talu eu biliau a byddwn yn asesu eu cyflwyniadau i sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi ein canllawiau ‘Talu’n Deg’ ar gyfer cwmnïau dŵr i gefnogi cartrefi i dalu eu bil, cael gafael ar gymorth ac ad-dalu dyledion. Yn dilyn ymlaen o’r rheini, rydym hefyd yn gofyn i gwmnïau dŵr ddarparu gwybodaeth am ddyledion cwsmeriaid i ni: bydd defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol yn galluogi cwmnïau dŵr i dargedu cyfathrebu a chymorth i’r cwsmeriaid mwyaf bregus.

 

Rydym hefyd yn symud ymlaen gyda’n hamod trwydded newydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer er mwyn trawsnewid perfformiad cwmnïau dŵr ar gyfer cwsmeriaid. Fel rhan o strategaeth ‘Amser i Weithredu, Gyda’n Gilydd’ Ofwat, bydd yr amod trwydded newydd hwn yn ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau ddarparu safonau uchel o wasanaeth cwsmeriaid a chymorth ar gyfer yr amrywiaeth lawn o anghenion cwsmeriaid.

 

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion 

 

Costau Byw: Ton 2 yw’r ail mewn cyfres o adroddiadau sy’n edrych ar brofiadau cwsmeriaid gyda biliau’r cartref, yn enwedig biliau dŵr, a’u barn ar werth am arian.

 

Mae’r adroddiad ymchwil ar gael yma.

 

Mae ein hadroddiad cyntaf, Costau Byw, profiadau cwsmeriaid dŵr, ar gael yma.

 

Cynhaliwyd ymchwil ar gyfer adroddiad Ton 2 gan Savanta rhwng 4 ac 13 Hydref 2022. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau.

 

Roedd yr ymchwil yn cynnwys:

 

  • Arolwg o 2,328 o dalwyr biliau dŵr yng Nghymru a Lloegr. Mae’r sampl yn cynnwys 1,923 o ymatebwyr yn Lloegr a 405 o dalwyr biliau dŵr yng Nghymru.

Pwysolwyd y data fel ei fod yn gynrychioliadol yn genedlaethol.

 

  • Sampl atgyfnerthu o 335 o dalwyr biliau dŵr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a Lloegr.

 

Daw’r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn bennaf o’r prif sampl o dalwyr biliau yng Nghymru a Lloegr (sylfaen: 2,328). Fodd bynnag, mae data sy’n edrych ar wahaniaethau yn ôl ethnigrwydd yn cynnwys y sampl atgyfnerthu lleiafrifoedd ethnig ynghyd â’r ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig o’r prif arolwg, gan wneud cyfanswm sylfaen o 572 o ymatebwyr.