Diolch am gysylltu â ni.
Ofwat yw’r rheoleiddiwr economaidd ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr, sy’n gweithio er budd cwsmeriaid.
Mae’n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gallu mynegi pryderon a gofyn cwestiynau ynglŷn â’u gwasanaethau dŵr. Fodd bynnag, cyfyngedig iawn yw rôl Ofwat o ran ymateb i ymholiadau unigol gan gwsmeriaid.
Mae’r panel ar yr ochr dde yn amlinellu sut y gallwch gael ateb i’ch cwestiwn neu gŵyn. Yn gryno:
- Os oes gennych gwestiwn neu gŵyn sy’n ymwneud â’ch cwmni dŵr neu garthffosiaeth, dylech gysylltu â’r cwmni yn gyntaf.
- Os ydych yn parhau’n anfodlon, cysylltwch â’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr – dyna yw ei rôl. (http://www.ccwater.org.uk/adviceandcomplaints/)
- Yn y sefyllfaoedd prin hynny lle bo’r mater penodol yn un i Ofwat ddelio ag ef (gweler y panel) ein nod yw ymateb i ymholiadau mor fuan â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os ydych wedi gwneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu gais gwrthrych am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data, byddwn yn ymateb i chi mor fuan â phosibl ac o fewn yr amserlen statudol.
Cliciwch yma i lenwi ein harolwg a’n helpu i ddeall beth yw eich barn am y gwasanaeth awtomataidd hwn o ran eich cynorthwyo i gael yr ateb cywir i’ch ymholiad.
Diolch