Detail
Mae’r adroddiad cyflenwi gwasanaeth yn monitro perfformiad yr 17 cwmni mwyaf yng Nghymru a ynglŷn ag elfennau allweddol cyflawni canlyniadau a gwariant sydd o bwysigrwydd parhaus i gwsmeriaid. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar wybodaeth a adroddwyd gan gwmnïau yn eu hadroddiadau perfformiad blynyddol (weithiau caiff rhain eu diwygio hyn mewn ymateb i’n hymholiadau neu ymyriadau)2 ac, oni nodir yn wahanol, fe’i mesurir rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu ni - a rhanddeiliaid megis grwpiau cwsmeriaid, grwpiau amgylcheddol a buddsoddwyr - i ddwyn cwmnïau i gyfrif nawr ac yn y tymor hwy. English language version available at https://www.ofwat.gov.uk/publication/service-and-delivery-2020-21/