Detail
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfer penderfynu a yw cwsmeriaid busnes yng Nghymru a Lloegr yn gymwys i newid y manwerthwr dŵr a charthffosiaeth sy’n gwasanaethu eu heiddo. Mae’n cynnwys canllawiau statudol ac anstatudol. Ers i’r farchnad manwerthu busnes agor ym mis Ebrill 2017, mae cwsmeriaid busnes cymwys yn Lloegr wedi gallu dewis eu cyflenwr gwasanaethau manwerthu dŵr a charthffosiaeth. Nid oes gofyniad trothwy o ran defnydd dŵr. Yng Nghymru, dim ond eu manwerthwr dŵr y gall cwsmeriaid busnes ei newid ac i fod yn gymwys mae’n rhaid i’w defnydd o ddŵr fodloni gofyniad trothwy o 50 megalitr (ML) y flwyddyn. Ym mis Gorffennaf 2016, gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar gymhwystra ochr yn ochr â chanllawiau atodol yn dilyn ceisiadau gan randdeiliaid am ragor o eglurder ac enghreifftiau. Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ailgyhoeddi ein canllawiau, a'n canllawiau atodol i gadarnhau y byddai ein canllawiau yn berthnasol yn Ynysoedd Sili o 1 Ebrill 2020. Mae’r fersiwn gyfredol hon o’r canllawiau yn cyfuno, ac yn diweddaru, y ddwy ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2020. Mae Rhan A yn berthnasol yn Lloegr tra bod Rhan B yn berthnasol yng Nghymru.