Costau byw - Profiadau cwsmeriaid dŵr

Costau byw - Profiadau cwsmeriaid dŵr

452.22 KB - PDF

Download

Published

12th May, 2022

Kind

Publication

Type

Cymraeg / Report

Detail

Costau byw: Mae profiadau cwsmeriaid dŵr yn edrych ar brofiadau talwyr biliau dŵr yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â thalu biliau a chanfyddiadau o werth am arian. Cynhaliwyd yr ymchwil gan Savanta rhwng 25 Mawrth ac 1 Ebrill 2022. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr ymchwil yn cynnwys: Arolwg o 2,306 o dalwyr biliau dŵr yng Nghymru a Lloegr. Mae’r sampl yn cynnwys 1,911 o ymatebwyr yn Lloegr a 395 o dalwyr biliau yng Nghymru. Pwysolwyd y data fel ei fod yn gynrychioliadol yn genedlaethol. Sampl atgyfnerthu o 303 o dalwyr biliau dŵr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a Lloegr. Drwy gydol yr adroddiad hwn, defnyddir sampl data Cymru a Lloegr i adrodd ar ganfyddiadau. Fodd bynnag, mae data sy’n edrych ar wahaniaethau yn ôl ethnigrwydd yn cynnwys y sampl atgyfnerthu lleiafrifoedd ethnig a’r ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig o’r prif arolwg, gan wneud cyfanswm o 515 o ymatebwyr. Gellir cael gafael ar y tablau data llawn o wefan Ofwat a gwefan Savanta.