Detail
Yn PR24 rydym yn gofyn i’r cwmnïau dŵr nodi eu strategaethau cyflawni hirdymor ar gyfer y 25 mlynedd nesaf, a thrwy hyn, dangos sut y bydd eu cynllun busnes pum mlynedd yn sicrhau’r gwelliannau cywir ar yr adeg iawn, er mwyn bodloni eu hamcanion hirdymor.1 Bydd yn rhaid iddynt fod yn ymwybodol o ansicrwydd yn y dyfodol a sefydlu eu cynlluniau hirdymor mewn modd a fydd yn gallu ymdopi â’r ansicrwydd hwn. Mae rhanddeiliaid Cymru wedi’i gwneud yn glir bod dull cydweithredol yn ddymunol pan fydd strategaethau hirdymor ar gyfer Cymru yn cael eu datblygu. Mae’r papur hwn yn nodi: y cyd-destun ar gyfer cydweithredu yng Nghymru gan gynnwys sut mae’r Datganiad Blaenoriaethau Strategol a pholisïau ehangach yn ysgogi cydweithredu; cyd-destun yr adolygiad prisiau nesaf, PR24; ein gobaith am sut y bydd y dull cydweithredol yn cyfrannu at nodi’r canlyniadau lefel uchel ar gyfer y cwmnïau dŵr; y rôl y bydd pob parti sy’n rhan o’r broses yn ei chwarae; y camau nesaf er mwyn i’r broses gydweithredol gychwyn.