Detail
Ar yr adeg hon yn y cylch adolygu prisiau, mae cwmnïau’n paratoi eu cynlluniau busnes PR24. Rydym yn disgwyl i bob cwmni fod yn ymgysylltu â chwsmeriaid i sicrhau bod eu cynlluniau busnes yn ystyried anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau cwsmeriaid. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer y safonau y dylai cwmnïau eu cyrraedd wrth ddatblygu cynllun busnes ar gyfer: ymchwil o ansawdd uchel; her cwsmeriaid ar natur, ansawdd a defnydd tystiolaeth ymgysylltu â chwsmeriaid; a sicrwydd o ansawdd a defnydd tystiolaeth ymgysylltu â chwsmeriaid. Rydym yn disgwyl i’r fframwaith ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid a nodir ym methodoleg drafft PR24 adlewyrchu cynnwys y ddogfen hon i raddau helaeth, ynghyd â’n papur sefyllfa ‘Ymchwil cwsmeriaid cydweithredol ar gyfer PR24’ a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021. Cyhoeddir y fethodoleg ddrafft ym mis Gorffennaf 2022.