Detail
Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer y gronfa arloesi dros y tair blynedd nesaf (2022-25) ac yn gofyn cwestiynau allweddol i gasglu eich barn er mwyn helpu i lunio ac esblygu ein dull. Hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn gwneud cais i’r gronfa neu sydd â diddordeb yng nghanlyniad y gronfa megis: academia, elusennau, ymgynghoriaethau, cwsmeriaid, cyrff cynrychioli cwsmeriaid, cyrff neu gymdeithasau diwydiant, gweithgynhyrchwyr, penodiadau newydd ac amrywiadau (NAV), sefydliadau anllywodraethol, rheoleiddwyr eraill, busnesau newydd, sefydliadau cadwyn gyflenwi, darparwyr technoleg, cwmnïau dŵr a manwerthwyr dŵr.