About Consultation
Am Ymgynghori
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn crynhoi’r newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud i’n Canllawiau Cymhwystra ynglŷn ag a yw cwsmeriaid dibreswyl yng Nghymru a Lloegr yn gymwys i newid eu manwerthwr (Canllawiau Cymhwystra) a Chanllawiau Atodol ynglŷn ag a yw cwsmeriaid dibreswyl yng Nghymru a Lloegr yn gymwys i newid eu manwerthwr (Canllawiau Cymhwystra Atodol), y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel “canllawiau” neu “ganllawiau cymhwystra” yn y ddogfen hon. Cyhoeddir y ddogfen canllawiau wedi’i diweddaru arfaethedig ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori hon.
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein bod yn ceisio barn ar ein newidiadau arfaethedig. Yn unol ag adran 17DA Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 (y Ddeddf), mae’n ofynnol i ni ymgynghori ar adrannau hyd a lled eiddo a gofyniad trothwy ein canllawiau. Mae gweddill yr adrannau yn y canllawiau yn anstatudol.
Ble i anfon cyflwyniadau
Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y ddogfen hon. Anfonwch nhw mewn e-bost i [email protected] Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad hwn yw 28 Chwefror 2022.