PN 01/22 Mae angen i gwmnïau dŵr fynd ymhellach i dorri allyriadau carbon

 

Dylai cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr fynd ymhellach i leihau allyriadau o brosiectau seilwaith yn y dyfodol, yn ôl disgwyliadau a nodwyd gan reoleiddiwr Ofwat heddiw.

Mewn papur sefyllfa ar uchelgeisiau sero net, mae Ofwat yn croesawu Map Trywydd 2030 ar garbon Water UK fel cam pwysig er mwyn i’r diwydiant fod yn sero net erbyn 2050. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r nod hwnnw, mae’r papur yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i gwmnïau dŵr fynd y tu hwnt i’r hyn a gynigir yn y Map Trywydd trwy hefyd fynd i’r afael ag allyriadau carbon corfforedig; carbon sy’n cael ei allyrru wrth i seilwaith gael ei adeiladu.

Mae’r papur yn galw ar gwmnïau dŵr i alinio eu cynlluniau â thargedau sero net llywodraeth genedlaethol yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n dweud y dylid lleihau a dileu allyriadau nwyon tŷ gwydr gan gwmnïau yn gyntaf cyn iddynt ddefnyddio mesurau gwrthbwyso i leihau eu hallyriadau. Wrth ddatblygu eu dulliau ar gyfer sero net, bydd angen i gwmnïau sicrhau bod eu cynlluniau’n glir, yn dryloyw ac yn gallu cael eu deall gan y cyhoedd yn ehangach randdeiliaid. Mae hyn yn hanfodol gan y bydd yn caniatáu i randdeiliaid gefnogi a herio cwmnïau yn briodol ar eu llwybr i sero net, gan ganolbwyntio ar sicrhau’r gwerth gorau i gwsmeriaid a’r amgylchedd.

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr Polisi yn Ofwat:

“Rhaid i gwmnïau dŵr fod yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni eu targedau sero net a mynd i’r afael â’r heriau a ddaw yn sgil hynny. Rydym yn croesawu uchelgais y sector, ond mae angen i gwmnïau dŵr fynd i’r afael â’u hallyriadau carbon ac adrodd yn gynhwysfawr arnynt os ydynt am wneud y newidiadau sydd eu hangen i gynnal a gwella’r amgylchedd. Byddwn yn gweithio gyda’r sector i ddatblygu gofynion adrodd ymhellach er mwyn sicrhau bod y sector yn cyflawni ar sero net.”

Mae Ofwat wedi wedi nodi datganiadau clir ynglŷn â’r materion allweddol hyn fel y gall cwmnïau gynllunio’n briodol ar gyfer eu strategaethau sero net, yn enwedig wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer PR24. Bwriad y papur sefyllfa hwn hefyd yw ysgogi trafodaeth gydag Ofwat ar sut y gall y rheoleiddiwr gefnogi’r sector i gyrraedd targedau sero net.