PN 16/22 Syniadau arloesol i wella effeithlonrwydd dŵr, atal gollyngiadau a chynyddu’r carbon sy’n cael ei ddal yn Her Water Breakthrough Ofwat

 

0001, Dydd Iau 28 Ebrill 2022 (Llundain) – Mae prosiectau arloesol sy’n lleihau gollyngiadau, yn gwella effeithlonrwydd dŵr aelwydydd ac sy’n troi carbon deuocsid yn gynnyrch defnyddiol, gan gynnwys paent a gwrtaith, wedi’u cyhoeddi fel enillwyr ail Transform Stream her Water Breakthrough Challenge.

Mae Ofwat, y rheoleiddiwr dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr, wedi dyfarnu £20 miliwn o gyllid i enillwyr yr ail Water Breakthrough Challenge – rhan o gyfres o gystadlaethau arloesol a grëwyd gyda’r £200 miliwn a ddarparwyd gan y Gronfa Arloesedd Dŵr ac a gyflenwyd gan Nesta Challenges, Arup ac Isle Utilities. Mae’r gronfa yn helpu i ysgogi prosiectau arloesol newydd, sy’n galluogi’r sector dŵr i gyflawni anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn well.

Roedd enillwyr Transform Stream, Water Breakthrough Challenge  yn canolbwyntio ar syniadau arloesol trawsnewidiol mawr, tymor hwy – gan gynnwys:

  • National Leakage Research and Test Centre (NLRTC) – Bydd Northumbrian Water yn creu canolfan genedlaethol i brofi cynnyrch newydd i fynd i’r afael â gollyngiadau mewn amodau “bywyd go iawn”, gan wella diogelwch ac effeithiolrwydd er mwyn gallu eu cyflwyno yn gyflymach ac ar raddfa fwy.
  • Managing Background Leakage – Bydd grŵp o gwmnïau dŵr o dan arweiniad Dŵr Cymru Welsh Water yn helpu i ddatblygu technolegau newydd i ganfod y gollyngiadau niferus sy’n cael eu methu ar hyn o bryd drwy’r dulliau ymchwilio presennol drwy gynnal ymchwiliadau fforensig o 25 ardal, gan ddefnyddio synwyryddion llif, pwysedd a thymheredd ar lefel o ddwyster nas cynhaliwyd o’r blaen.
  • Enabling Water Smart Communities – bydd grŵp o gwmnïau dŵr, prifysgolion, adeiladwyr cartrefi ac awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau y gellir integreiddio’r 4 miliwn o gartrefi newydd [1] sydd ar y gweill erbyn 2041 i’r system ddŵr mewn ffordd gynaliadwy, gan sicrhau bod gan gymunedau newydd fynediad parhaus at adnoddau dŵr y mae pen draw iddynt, y rheolir dŵr gwastraff a bod peryglon llifogydd yn cael eu lliniaru.
  • CECCU (CHP Exhaust Carbon Capture and Utilisation) – prosiect i drawsnewid carbon a ddelir yn gynnyrch defnyddiol fel paent a gwrtaith, gan arbed 5 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn a chreu’r broses Gwres a Phŵer Cyfunol (CHP) – lle mae gwres, fel sgil-gynnyrch ynni a gynhyrchir yn cael ei ddal a’i ddefnyddio – carbon niwtral.

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr, Strategaeth, Cyllid a Seilwaith yn Ofwat:

“Mae’n hollbwysig i’r sector dŵr greu syniadau newydd, arloesol i ddatrys yr heriau sy’n wynebu’r sector, a chymdeithas.  Bydd yr enillwyr a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i ddatblygu syniadau i arbed mwy o ddŵr, troi carbon a ddelir yn gynnyrch defnyddiol ac, yn y pen draw, sicrhau bod y sector yn fwy cynaliadwy.

“Mae Cronfa Arloesedd Ofwat, sy’n darparu gwobrau ariannol ar gyfer llawer o’r  cystadlaethau hyn, yn bodoli i helpu i ysgogi mentrau newydd a mentrus gan gwmnïau dŵr sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, elusennau, practisau peirianneg a chwmnïau technoleg.  Mae gennym lawer i’w ddysgu gan sectorau eraill ac mae enillwyr y rownd hon o’r gystadleuaeth yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio.”

Dywedodd Sharon Darcy, Cyfaryddwr, Sustainability First a beirniad Transform Stream yr ail Water Breakthrough Challenge:

“Er y byd llawer yn meddwl am sero-net fel mater i gwmnïau pŵer, mae’r sector dŵr yn defnyddio 2-3% o’r holl drydan a gynhyrchir yn y DU. Bydd atebion newydd sy’n cyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel CECCU a dulliau prif-ffrydio fel Galluogi Cymunedau Arbed Dŵr sy’n helpu i ofalu am a lleihau’r galw am ddŵr, yn gwneud cyfraniad mawr i helpu’r sector i gyrraedd ei dargedau sero-net er lles pawb.”

I gael gwybod mwy am enillwyr y Water Breakthrough Challenge a chronfa arloesedd Ofwat, ewch i waterinnovation.challenges.org.

Dechreuodd Ofwat ar ymgynghoriad yn ddiweddar ar gyfeiriad Water Breakthrough Challenges a’r Gronfa Arloesedd Dŵr yn y dyfodol.  Mae’n bosibl lleisio barn mewn dwy ffordd, drwy  ffurflen ymateb ar-lein neu drwy anfon sylwadau drwy e-bost i [email protected]. Mae’r ymgynghoriad chwe wythnos yn dod i ben ar 17 Mai 2022 – mae manylion llawn yr ymgynghoriad ar gael yn www.ofwat.gov.uk.

//DIWEDD//

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer holl ymholiadau’r cyfryngau: Robyn Margetts, [email protected] NEU Andrew McKay, [email protected]

[1] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections/bulletins/2016basedhouseholdprojectionsinengland/2016basedhouseholdprojectionsinengland

Enillwyr ail Transform Stream y Water Breakthrough Challenge

CECCU

Mae gan y sector dŵr hanes hir o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan leihau’n sylweddol faint a ddibynnir ar drydan o’r grid, er lles yr amgylchedd a thrwy hefyd gadw biliau cwsmeriaid yn isel. I greu ynni adnewyddadwy, mae bio-nwy’n cael ei hylosgi mewn injans Gwres a Phŵer Cyfunedig (CHP) sy’n rhyddhau allyriadau CO2 anochel.  Bydd Severn Trent Water (STW), drwy weithio â Clarke Energy a chwmni Carbon Capture Machine, yn datblygu technoleg newydd i leihau ac ailddefnyddio allyriadau CO2 o injans CHP.  Drwy ddangos y dechnoleg hon, sef y gyntaf o’i math, ar raddfa ddiwydiannol ar safle STW yn Derby, bydd carbon yn cael ei dynnu allan a’i droi’n gynhyrchion ecogyfeillgar defnyddiol fel paent a gwrtaith.  Yn ogystal â’r dechnoleg ei hun a’i photensial i ddatgloi arloesi ar draws y diwydiant yn y dyfodol, mae’r prosiect yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi a bydd yn esiampl arloesol o’r economi gylchol ar waith. [Bydd United Utilities, Southern Water a Scottish Water yn cyfrannu arbenigedd gweithredol i sicrhau bod y prosiect yn rhoi’r budd mwyaf i’r cwsmer.]  Bydd cymorth ac arbenigedd annibynnol gan Brifysgol Brunel yn dilysu’r prosiect yn allanol ac yn monitro manteision y prosiect i gymdeithas yn gyffredinol.

Enabling Water Smart Communities

Mae heriau sylweddol o hyd i gwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd oddi wrth lifogydd cyson, sychder am gyfnodau hir a’r effeithiau ar ansawdd dŵr.

Bydd twf cyflym presennol y diwydiant codi tai yn ychwanegu at yr heriau hyn a chynyddu’r galw am ddŵr a gwasanaethau dŵr gwastraff tan fydd y sefyllfa’n anghynaladwy.

Mae Rheoli Dŵr yn Integredig (IWM) yn cynnig ateb drwy gyfuno seilwaith, technoleg, polisïau a rhaglenni newid ymddygiad i wella bywydau drwy reoli dŵr mewn ffordd gydgysylltiedig.

Pur anaml y gweithredir IWM oherwydd problemau stiwardiaeth, safonau polisi a rheoleiddio statig a diffyg fforddiadwyedd.

Bydd y prosiect hwn yn arloesi drwy fynd i’r afael â’r pethau hyn drwy:

  • Ailfeddwl am asedau: Datblygu a phrofi dulliau IWM arloesol o ddylunio a rheoli asedau i gefnogi modelau stiwardiaeth newydd;
  • Ailfeddwl am rolau: Herio safonau polisi a rheoleiddio i gefnogi rhanddeiliaid;
  • Ailfeddwl am werth: Deall cymhelliad rhanddeiliaid i ddatblygu modelau ariannol er mwyn datgloi ffynonellau buddsoddi newydd a chysoni ffynonellau presennol, i ddarparu IWM fforddiadwy.

HyValue – Hydrogen from Biogas

Nod HyValue yw trosi bio-nwy o garthion yn hydrogen er mwyn cynyddu ei botensial datgarboneiddio o hyd at 10 gwaith gan ddal a storio gymaint o CO2  â phosib yn ei ffynhonnell a lleihau allyriadau (methan, NOx, gronynnau, ayyb).

Fel menter gydweithredol rhwng Dŵr Cymru, Costain a Phrifysgol De Cymru, bydd y prosiect i ddechrau’n astudio cynhyrchu hydrogen fel defnydd arall i’r bio-nwy, drwy gymharu ei gynaliadwyedd â defnyddiau prif ffrwd eraill o bio-nwy ac ymgorffori effaith Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS).

Damcaniaeth tîm y prosiect yw mai cynhyrchu hydrogen o fio-nwy yw’r ffordd orau o gynnig y manteision amgylcheddol a datgarboneiddio mwyaf, gan roi’r gwerth am arian gorau i gwsmeriaid.

Os yw’r astudiaeth yn profi gwerth i gynhyrchu hydrogen o fio-nwy, bydd y partneriaid yn ceisio creu dyluniad amlinellol o ffatri waith yn un o gyfleusterau treulio anaerobig Dŵr Cymru gyda’r nod o asesu ymarferoldeb technegol adeiladu ffatri waith yn AMP8.

Managing Background Leakage

Mae gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr dargedau gan Ofwat i ollwng 15% yn llai o ddŵr dros y cyfnod cynllunio presennol hyd at Fawrth 2025. Mae cwsmeriaid a rheoleiddwyr am weld llai o ddŵr yn cael ei ollwng gan ystyried hyn fel gwastraffu dŵr; ond yn bwysicach na hyn, mae hefyd yn gwastraffu trydan a chemegion i drin a dosbarthu dŵr, yn ychwanegu at allyriadau CO2, effeithio ar yr her o gyflawni carbon sero-net ac yn ychwanegu at y dŵr a dynnir o’r amgylchedd sy’n effeithio ar ecoleg. Y broblem yw bod tua 50% o ddŵr yn cael ei ollwng oherwydd Gollyngiadau Cefndir; sef yr holl ollyngiadau bach cudd; y farn gyffredinol yw na ellir lleihau’r rhain. Ond credwn mai hen ollyngiadau yw rhai Gollyngiadau Cefndir, ac nad yw’r dulliau presennol yn gallu dod o hyd iddynt. Nod y prosiect hwn yw ailddiffinio trothwyon canfod gollyngiadau i helpu i binbwyntio a thrwsio gollyngiadau cudd a ffactorau eraill sy’n cyfrannu at ollyngiadau cefndir. Bydd hyn o fudd i gwsmeriaid drwy greu ffyrdd mwy cynaliadwy o ollwng llai o ddŵr gan osgoi cynyddu tynnu dŵr o’r amgylchedd os na all y dulliau presennol gwrdd â thargedau gollwng yn y dyfodol.

National Leakage Research Test Centre (NLRTC)

Mae gollwng dŵr yn broblem amgylcheddol ddifrifol a rhaid ei lleihau’n sylweddol i gynnal sicrwydd dŵr. Mae digon o syniadau ar sut i ollwng llai o ddŵr ond mae angen cyflymu’r broses o ddatblygu atebion.  Bydd y National Leakage Research Test Centre  yn rhwydwaith 5km o bibelli dŵr tanddaearol i weithio’n benodol ar ddatblygu a phrofi dyfeisiau newydd heb darfu ar gyflenwadau cwsmeriaid nac effeithio ar ansawdd dŵr.  Bydd yn mewnosod pethau fel robotau trwsio a selyddion yn y cyflenwad dŵr i asesu eu perfformiad.  Bydd staff y ganolfan yn ardystio dyfeisiau newydd i ddangos i gwmnïau dŵr pa mor dda y maen nhw’n perfformio.  Bydd y rhwydwaith yn cynnwys pibelli hen a newydd o wahanol ddeunyddiau a meintiau, yn union fel rhwydwaith dŵr byw, ond bydd ymchwilwyr yn gallu mewnosod a symud rhannau o bibelli a wnaed i ollwng yn fwriadol.  Bydd yn casglu ac ailgylchu dŵr wedi gollwng a hyd yn oed yn efelychu cwsmeriaid yn tynnu dŵr wrth gynnal y profion. Mae sgôp hefyd i ddefnyddio’r ganolfan ar gyfer hyfforddiant ac ymchwil arall.

Stream

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod troi’r tap ymlaen yn cychwyn proses gymhleth o ddŵr yn llifo drwy rwydwaith o bibelli i’n cartrefi a busnesau.

Ond ni ŵyr y rhan fwyaf am y rôl bwysig y mae data’n ei chwarae mewn sicrhau hyn. O adnabod cwsmeriaid sydd angen help i wybod ble y mae dŵr yn gollwng, data yw’r arian byw sy’n helpu’r sector dŵr i roi manteision i gwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd.

Rhwng rŵan a 2024, bydd Stream yn dylunio a darparu’r ‘rhwydwaith o bibelli data’ er mwyn rhannu setiau data’r diwydiant mewn ffordd ddiogel, safonol a hawdd ei defnyddio. Bydd ein data yna’n llifo i setiau data mwy fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatrys trafferthion y sector. Ond mae effaith Stream yn fwy nag ar y sector dŵr. Yn ôl profiad sectorau eraill fel bancio a thrafnidiaeth, mae cyflwyno data i’r cyhoedd yn gwella ymddiriedaeth a rhoi’r wybodaeth sydd ei angen ar arloeswyr i lansio gwasanaethau newydd er budd pellach i gymdeithas.

Water4All

Nod Water4All yw adnabod ac ymgysylltu’n rhagweithiol â chwsmeriaid ariannol fregus i gynnig cymorth iddynt drwy gynyddu mynediad at dariffau cymdeithasol a rhaglenni cymorth sydd ar gael gan gwmnïau dŵr a’u partneriaid.

Mae gan lawer o gwmnïau dŵr raglenni penodol i helpu eu cwsmeriaid ond mae taer angen help arnynt i adnabod a rhoi cymorth gwell i gartrefi sy’n ariannol fregus ac ar incwm isel. Mae Water4All, dan arweiniad Southern Water, yn rhoi cwsmeriaid ariannol fregus wrth galon yr ateb.

Bydd Sagacity, sy’n arwain consortiwm o arbenigwyr amlsector yn cynnwys Equifax a Synectics Solutions, Advizzo, Auriga, AgilityEco a Waterwise, yn defnyddio eu data a’u gwybodaeth am y diwydiant i adnabod a helpu’r cwsmeriaid sydd fwyaf angen cymorth. Drwy adnabod ac ymgysylltu’n rhagweithiol, bydd Water4All yn helpu cartrefi ariannol fregus i wneud y mwyaf o’u hincwm, dod â’u biliau i lawr a lleihau eu ôl-troed carbon.

Cronfa Arloesedd Ofwat a’r Water Breakthrough Challenge

Ofwat yw rheoleiddiwr economaidd y sector dŵr yng Nghymru a Lloegr,  Mae wedi sefydlu Cronfa Arloesedd gwerth £200 miliwn i gynyddu capasiti’r sector dŵr i arloesi, sy’n eu galluogi i gyflawni anghenion esblygol cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn well.  Mae’n annog ffyrdd newydd o weithio sy’n mynd y tu hwnt i arferion arloesedd busnes arferol y diwydiant dŵr, yn arbennig cynyddu a gwella cydweithrediad a datblygu partneriaethau o fewn a thu hwnt i’r sector dŵr.

Mae’r ail Water Breakthrough Challenge yn cael ei gynnal gan Ofwat a Nesta Challenges mewn partneriaeth ag Arup ac Isle Utilities a hon yw’r drydedd mewn cyfres o gystadlaethau sy’n cael eu cyflenwi drwy’r Gronfa yn dilyn yr Innovation in Water Challenge a her gyntaf y Water Breakthrough Challenge y llynedd. Mae gwybodaeth bellach am Nesta Challenges, Arup ac Isle Utilities ar gael yn:  https://waterinnovation.challenges.org/ofwat-innovation-fund/partners/

 

Gallwch weld yr holl enillwyr presennol a blaenorol yma: https://waterinnovation.challenges.org/winners/

Nesta Challenges

Mae Nesta Challenges yn bodoli i ddylunio a chynnal gwobrau her sy’n helpu i ddatrys problemau pwysig nad oes datrysiadau ar eu cyfer.  Rydym yn canolbwyntio ar faterion pwysig ac yn cymell pobl i ddatrys y materion hyn.  Rydym yn gefnogwyr annibynnol newid, i helpu cymunedau i ffynnu ac ysbrydoli’r grwpiau mwyaf amrywiol o bobl o amgylch y byd, sydd yn y sefyllfa orau i weithredu.  Rydym yn helpu i wireddu’r syniadau mwyaf beiddgar a dewr a hau hadau newid tymor hir i hybu cymdeithas a chreu dyfodol gwell i bawb.

 

Arup

 

Mae Arup yn gwmni annibynnol o ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr technegol sy’n gweithio ar draws pob agwedd o’r amgylchedd adeiledig presennol.  Gyda’n gilydd rydym yn helpu ein cleientiaid i ddatrys eu heriau mwyaf cymhleth – gwireddu syniadau cyffrous wrth i ni geisio canfod ffordd well a chreu byd gwell.  Gyda chymuned o 1700 a mwy o weithwyr proffesiynol ym maes dŵr, mae Arup yn arwain syniadau byd-eang ar draws meysydd allweddol fel arloesedd, cydnerthedd, sero carbon net a rheoli dŵr yn gynaliadwy.

Isle Utilities

Mae Isle yn dîm rhyngwladol o wyddonwyr, peirianwyr, arbenigwyr busnes a rheoleiddiol annibynnol sydd â’r uchelgais gyffredin o greu effaith amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd gadarnhaol drwy ddatblygu technolegau, datrysiadau ac arferion arloesol.