PN 25/22 Adolygiad Prisiau 2024: Ofwat yn amlinellu fframwaith i sicrhau canlyniadau gwell i gwsmeriaid a’r amgylchedd

 

Heddiw mae Ofwat wedi amlinellu ei fethodoleg ddrafft ar gyfer Adolygiad Prisiau (PR24) sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i gwsmeriaid a’r amgylchedd.

Bydd PR24, a fydd yn cwmpasu’r cyfnod 2025-2030, yn ysgogi cwmnïau dŵr i gamu ymlaen i gyflawni yn wyneb heriau brys o ran yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd. Bydd yr adolygiad yn gwthio cwmnïau i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau fforddiadwy, dibynadwy a gwydn i bawb.

Mae Ofwat wedi amlygu pedwar uchelgais allweddol ar gyfer PR24:

  • Ffocws ar yr hirdymor: Rhaid i’r sector fynd i’r afael â heriau uniongyrchol a hirdymor. Bydd cynlluniau busnes ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn cael eu gosod yng nghyd-destun strategaeth gyflawni 25 mlynedd, a bydd Ofwat yn dwyn cwmnïau i gyfrif am y gwelliannau y mae angen iddynt eu cyflawni.
  • Darparu gwell gwerth amgylcheddol a chymdeithasol: Bydd amgylchedd gwell i bawb yn cael ei ddarparu drwy weithredu ar unwaith a pharhaus i wella perfformiad ar ansawdd dŵr afonydd, camau breision tuag at sero net, a mwy o atebion seiliedig ar natur.
  • Adlewyrchu dealltwriaeth gliriach o gwsmeriaid a chymunedau: Bydd cyfarfodydd cyhoeddus agored newydd ar gynlluniau cwmnïau, ymchwil mwy cadarn i ddeall ac adlewyrchu barn cwsmeriaid, a gwaith partneriaeth cryfach yn sicrhau canlyniadau gwell.
  • Ysgogi gwelliannau drwy effeithlonrwydd ac arloesedd: Mae angen i gwmnïau gamu ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol a fydd yn helpu i osod y meincnod ar gyfer gwasanaethau gwydn, fforddiadwy i bawb.

Mae’r ymgynghoriad ar y fethodoleg ddrafft yn rhoi cyfle i randdeiliaid helpu Ofwat i lunio dyfodol y sector ac arwain cynlluniau busnes cwmnïau.

Dywedodd David Black, Prif Weithredwr Dros Dro Ofwat:

“Mae cwmnïau dŵr a dŵr gwastraff yn darparu gwasanaeth hanfodol i gwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr. Rydym wedi gwrando ar bryderon ac uchelgeisiau pobl ar gyfer y sector dŵr.  Rydym yn deall brys yr heriau o ran yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd, a’r wasgfa ar sefyllfa ariannol pobl.  Yn PR24, mae angen i gwmnïau gamu ymlaen i ymateb i’r heriau hyn drwy ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau dibynadwy a gwydn.”

Dywedodd Aileen Armstrong, Uwch Gyfarwyddwr, Perfformiad Cwmnïau ac Adolygiadau Prisiau, Ofwat:

“Mae’r adolygiad prisiau hwn yn bwysig i bob un ohonom ac i’n hamgylchedd.  Rydym yn awyddus i glywed barn ar ein cynigion gan bawb sydd â diddordeb yn nyfodol y gwasanaeth hanfodol hwn.”

“Bydd yr adolygiad prisiau hwn yn parhau i wthio’r sector i gyflawni mwy ar gyfer cwsmeriaid a’r amgylchedd. Rydym yn cynnig newidiadau i sicrhau bod lleisiau cwsmeriaid yn cael eu clywed yn gliriach a’u deall yn well yn yr adolygiad hwn nag erioed o’r blaen.  Rydym hefyd yn cynnig canolbwyntio sylw ar y canlyniadau sy’n wirioneddol bwysig nawr ac yn yr hirdymor, ac y dylai cwmnïau osod eu cynlluniau yng nghyd-destun eu strategaethau ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. Yn gyffredinol, mae ein cynigion wedi’u cynllunio i herio cwmnïau i ddarparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff fforddiadwy sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid a’r amgylchedd.”

Nodiadau i Olygyddion

  • Bydd PR24 yn pennu’r pecyn prisiau, gwasanaeth a chymhelliant ar gyfer 2025-2030 ym mis Rhagfyr 2024. Methodoleg Ofwat yw’r fframwaith sy’n nodi’r disgwyliadau ar gyfer cynlluniau busnes cwmnïau, y mae’n rhaid eu cyflwyno ym mis Hydref 2023, a sut y caiff y cynlluniau busnes hynny eu hasesu.  Bydd yr ymgynghoriad ar y fethodoleg ddrafft yn cau ar 7 Medi 2022, a chyhoeddir y fethodoleg derfynol ym mis Rhagfyr 2022.
  • Deg cynnig ar gyfer PR24:
  1. Bydd cwmnïau’n paratoi Strategaethau Cyflawni Hirdymor, gan edrych ar y 25 mlynedd nesaf, gyda llwybrau addasol, ac yn gosod eu cynlluniau busnes 5 mlynedd yn y cyd-destun hirdymor hwn.
  2. Ymrwymiadau perfformiad cyffredin newydd ar feysydd amgylcheddol allweddol gan gynnwys gwella ansawdd dŵr afonydd, cryfhau bioamrywiaeth a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  3. Dulliau newydd ar gyfer ysgogi gwelliannau – Cronfa ‘her sero net’ i’r cwmnïau mwyaf effeithlon fynd ymhellach ac yn gyflymach i leihau carbon, a mwy o sicrwydd ynglŷn â chyllid i’r dyfodol ar gyfer atebion seiliedig ar natur
  4. Mwy o ddefnydd o farchnadoedd lle gallant ysgogi gwelliannau i gwsmeriaid a’r amgylchedd – caffael mwy uniongyrchol i gwsmeriaid prosiectau seilwaith mawr, a mwy o gyfleoedd i arloesi mewn gwasanaethau datblygwyr a bioadnoddau.
  5. Camau i sicrhau bod cwmnïau’n adennill eu costau’n deg gan gwsmeriaid presennol a chenedlaethau’r dyfodol
  6. Ymchwil cwsmeriaid cyson, traws-sector, i sicrhau bod cwsmeriaid o bob cwmni yn cael eu clywed. Dulliau mwy cadarn ar gyfer clywed blaenoriaethau cwsmeriaid, unrhyw amrywiadau rhanbarthol ym marn cwsmeriaid, a safbwyntiau ar dderbynioldeb a fforddiadwyedd cynlluniau busnes
  7. Sesiynau her agored newydd i roi cyfle i gwsmeriaid a rhanddeiliaid ehangach rannu pryderon a gofyn cwestiynau yn uniongyrchol i gwmnïau.
  8. Dull cydweithredol newydd yng Nghymru, sy’n adlewyrchu’r ffyrdd penodol o weithio yng Nghymru.
  9. Cwmnïau i nodi eu cynigion ar gyfer difidendau a chyflogau gweithredol ar sail perfformiad – a dangos sut mae’r polisïau’n cyd-fynd â’r hyn y mae’r cwmni’n ei gyflawni o ran y blaenoriaethau ar gyfer cwsmeriaid a’r amgylchedd
  10. Bydd Ofwat yn darparu mwy o wybodaeth (modelau cost sylfaenol a gwybodaeth i lywio cyfraddau cymhelliant) cyn y cyflwynir cynlluniau busnes, gan ganiatáu i gwmnïau ganolbwyntio ar gynllunio strategol hirdymor. Rydym hefyd yn cyfuno asesiad cynlluniau busnes a chamau penderfynu drafft yr adolygiad, gan arwain at 2 gam yn hytrach na 3.