Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod ychydig dros hanner talwyr biliau dŵr yn credu y byddant yn cael trafferth talu bil cyfleustodau dros y flwyddyn i ddod, a bydd hyn yn codi i 7 o bob 10 os oes plant yn y cartref. Mae traean o’r rheini sy’n disgwyl i’w sefyllfa ariannol waethygu’n fawr yn ystod y flwyddyn nesaf yn dweud eu bod yn teimlo’n isel eu hysbryd.
Er bod llai o gwsmeriaid yn mynegi pryder ynglŷn â’u bil dŵr, o gymharu â biliau trydan a nwy er enghraifft, mae’n bwysig bod y sector dŵr yn ymwybodol o’r pwysau cynyddol y mae cartrefi yn ei wynebu a bod cwmnïau dŵr yn parhau i hyrwyddo cymorth i’r rheini sy’n cael trafferth.
Mae ymchwil heddiw hefyd yn dangos cydberthynas rhwng yr hyn y mae pobl yn ei ragweld ar gyfer eu sefyllfa ariannol dros y flwyddyn nesaf, a sut mae pobl yn teimlo o ddydd i ddydd.
Dywedodd 47% o’r rheini sy’n disgwyl i’w sefyllfa ariannol waethygu eu bod yn teimlo’n bryderus o ddydd i ddydd a dywedodd 38% eu bod yn teimlo dan straen. Dim ond tri o bob deg (31%) o dalwyr biliau a ddywedodd eu bod yn ymwybodol y gall cwmnïau dŵr ddarparu cymorth ariannol i’r rheini sy’n cael trafferth talu biliau.
Mae’r ymchwil, a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2022, yn cofnodi profiadau pobl cyn cynnydd yng nghyfanswm cost biliau cyfleustodau a threuliau eraill ym mis Ebrill 2022 – felly bydd y pwysau eisoes wedi cynyddu, a bydd yn parhau i gynyddu. Mae’n hanfodol felly bod y rheini sy’n cael trafferthion ariannol yn ymwybodol o unrhyw gymorth a allai fod ar gael iddynt. Dylai cwmnïau dŵr wneud y cymorth y maent yn ei gynnig yn hawdd dod o hyd iddo ac yn hawdd ei ddeall, yn enwedig ar gyfer y rheini sydd mewn grwpiau agored i niwed.
Bydd yr ymchwil hwn yn llywio cynlluniau Ofwat i:
gyhoeddi canllawiau newydd i gwmnïau dŵr ar gynorthwyo cwsmeriaid preswyl i dalu eu biliau, cael help ac ad-dalu dyledion
datblygu amod trwydded sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i gynyddu ffocws cwsmeriaid cwmnïau a chymell y gwasanaeth gorau oll ar gyfer cwsmeriaid, a
pharhau i gasglu data ar amgylchiadau ariannol pobl a sut maent yn ymdopi â’u biliau cartref.
Dywedodd Dr Claire Forbes, Uwch Gyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol, Ofwat:
“Gwyddom fod llawer o bobl yn wynebu blwyddyn anodd ac mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r effaith bryderus y gall anawsterau ariannol ei chael ar iechyd meddwl a lles. Mae’n hanfodol bod cwmnïau dŵr a’r sector ehangach yn effro i hyn ac yn darparu cymorth a gwybodaeth i gwsmeriaid sy’n cael anawsterau. Byddwn yn parhau i fonitro sut mae cwsmeriaid yn ymdopi a sut mae cwmnïau dŵr yn ymateb.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Costau byw: Mae profiadau cwsmeriaid dŵr yn edrych ar brofiadau talwyr biliau dŵr yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â thalu biliau a chanfyddiadau o werth am arian.
Costau byw – Profiadau cwsmeriaid dŵr
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Savanta rhwng 25 Mawrth ac 1 Ebrill 2022. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys:
Arolwg o 2,306 o dalwyr biliau dŵr yng Nghymru a Lloegr. Mae’r sampl yn cynnwys 1,911 o ymatebwyr yn Lloegr a 395 o dalwyr biliau yng Nghymru. Pwysolwyd y data fel ei fod yn gynrychioliadol yn genedlaethol.
Sampl atgyfnerthu o 303 o dalwyr biliau dŵr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a Lloegr.
Drwy gydol yr adroddiad hwn, defnyddir sampl data Cymru a Lloegr i adrodd ar ganfyddiadau. Fodd bynnag, mae data sy’n edrych ar wahaniaethau yn ôl ethnigrwydd yn cynnwys y sampl atgyfnerthu lleiafrifoedd ethnig a’r ymatebwyr o leiafrifoedd ethnig o’r prif arolwg, gan wneud cyfanswm o 515 o ymatebwyr.
Gellir cael gafael ar y tablau data llawn o wefan Ofwat:
Cost of living data tables – combined England and Wales – Ofwat
Cost of living data tables – England – Ofwat
Cost of living data tables – Wales – Ofwat
Cost of living data tables – ethnic minority booster sample – Ofwat