PN 14/22 Ofwat yn galw ar y sectorau Gofod, Technoleg Ariannol a Digidol i leisio eu barn mewn ymgynghoriad newydd ar y Gronfa Arloesi

 

7 Ebrill 2022 (Llundain) – Yn dilyn cynllun peilot blwyddyn o hyd, pan gafodd mwy na £43 miliwn ei ddyfarnu i arloesi blaengar yn y sector dŵr, mae Ofwat – y rheoleiddiwr dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr – yn lansio ymgynghoriad i ofyn am farn ynglŷn â sut y gellir cadw’r momentwm hwn.

Mae’r Gronfa Arloesi Dŵr sy’n werth £200 miliwn – a luniwyd er mwyn hybu newid ac arloesi parhaol yn y sector – eisoes wedi creu partneriaethau aml-sector mewn ymateb i gyfres o gystadlaethau – gan gynnwys yr Her Arloesi mewn Dŵr a dwy Her Torri Drwodd Dŵr. Cynhaliwyd y cystadlaethau hyn gan Nesta Challenges – mewn partneriaeth ag Arup ac Isle Utilities – ac maent wedi cynhyrchu atebion arloesol gan gwmnïau dŵr a’u partneriaid i heriau sero net, effeithiau amgylcheddol a gwella gwasanaethau i ddefnyddwyr.

Mae’r enillwyr yn cynnwys prosiectau i gynhyrchu hydrogen gwyrdd o ddŵr gwastraff, partneriaethau i ddarparu data ar ansawdd dŵr i gymunedau mewn ffordd agored a hygyrch ac atebion peirianyddol newydd i atal peipiau rhag byrstio, gan ddefnyddio popeth o robotiaid i leinin pibellau wedi’i ddylunio’n bwrpasol y gellir ei ôl-osod y tu mewn i brif bibellau dŵr.

Erbyn hyn mae Ofwat yn bwriadu cynnal trydedd Her Torri Drwodd Dŵr yn hydref 2022. Mae hefyd yn bwriadu cynnal pedwaredd Her yn 2023 a phumed Her yn 2024 neu 2025, ac mae’n bosibl y bydd rhagor o gystadlaethau ar ôl 2025.

Er mwyn sicrhau bod y £120 miliwn a mwy sydd ar gael yn cael cymaint o effaith ag sy’n bosibl, mae Ofwat yn gofyn am farn sectorau amrywiol y mae’n credu y gallant daflu goleuni newydd ar rai o heriau mwyaf y sector dŵr. Yn fwyaf arbennig, mae’n awyddus i glywed gan unigolion, cwmnïau a chyrff cynrychioladol ar draws y byd academaidd, y sector adeiladu, sector gofod y DU, y diwydiant cemegol a chynhyrchion fferyllol, y sector digidol, amaethyddiaeth a physgodfeydd, y sector ynni, y sector morol, gweithgynhyrchu a logisteg, a’r sectorau bancio manwerthu a thechnoleg ariannol.

Yn y dyfodol, mae Ofwat yn awyddus i ystyried newidiadau a fydd yn galluogi’r gronfa i gefnogi mwy o syniadau cam cynnar er mwyn caniatáu i arloeswyr gael mwy o fynediad at y gronfa. Y prif newidiadau sy’n cael eu cynnig yw:

  • Agor cystadleuaeth flynyddol newydd gwerth £4 miliwn ar gyfer syniadau cam cynnar gan arloeswyr oddi mewn neu oddi allan i’r sector dŵr. Bydd yn canolbwyntio ar alluogi a chefnogi’r gwaith o ddatblygu syniadau yn y cam cynharach. Bydd y gystadleuaeth newydd hon yn targedu arloeswyr yn bennaf, ac ni fydd angen partneriaeth â chwmni dŵr er mwyn cymryd rhan.
  • Cynnal y gystadleuaeth flaenllaw flynyddol, ag addasiadau i rai rheolau cystadlu er mwyn annog cyfranogiad ehangach. Byddai’n cynnal yr Her Torri Drwodd â ffrydiau Catalydd a Thrawsnewid ar gyfer pob cystadleuaeth yn ystod 2022-25. Ar gyfer y ffrwd Catalydd (ceisiadau rhwng £250k ac £1 miliwn) byddai’n sicrhau bod tua £6 miliwn ar gael yn flynyddol, ni fyddai angen partneriaeth â chwmni dŵr er mwyn cymryd rhan, a byddai modd trwyddedu IP cefndir. Ar gyfer y ffrwd Trawsnewid (ceisiadau rhwng £1 miliwn a £10 miliwn) byddai’n sicrhau bod tua £30 miliwn ar gael yn flynyddol a byddai modd trwyddedu IP cefndir.

Byddai Ofwat yn hoffi clywed barn pobl a chwmnïau oddi mewn ac oddi allan i’r sector dŵr am ei brif newidiadau a nifer o feysydd eraill y mae’n eu harchwilio drwy ei ymgynghoriad. Gallwch ddarllen y fersiwn hawdd ei ddeall o’r cynigion hyn ar wefan Ofwat. Mae dwy ffordd o leisio barn, drwy’r ffurflen ymateb ar-lein neu drwy ebostio sylwadau i [email protected].

Nid oes rhaid i ymatebwyr fod wedi darllen yr ymgynghoriad llawn i ymateb – er hyn, gellir ei weld yn www.ofwat.gov.uk. Mae’r ymgynghoriad chwe wythnos yn dod i ben ar 17 Mai 2022.

-DIWEDD-

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau cysylltwch â: Robyn Margetts, [email protected] NEU Andrew McKay, [email protected]

Ynglŷn â Chronfa Arloesi Ofwat

Mae Ofwat wedi sefydlu Cronfa Arloesi gwerth £200 miliwn er mwyn tyfu capasiti’r sector dŵr i arloesi, gan ei alluogi i ddiwallu anghenion cwsmeriaid, cymdeithas a’r amgylchedd yn well wrth i’r anghenion hynny esblygu. Mae’n annog ffyrdd newydd o weithio sy’n mynd y tu hwnt i arferion arloesi busnes fel arfer yn y diwydiant dŵr, yn fwyaf arbennig, cynyddu a gwella cydweithrediad ac adeiladu partneriaethau oddi mewn ac oddi allan i’r sector dŵr.

Anogwyd ceisiadau gan gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr, ynghyd â phartneriaethau â phrifysgolion a sefydliadau, manwerthwyr, busnesau newydd, cwmnïau technoleg, elusennau, a busnesau bach mewn sectorau fel ynni, gweithgynhyrchu, iechyd neu wasanaethau ariannol.

https://www.ofwat.gov.uk/about-us/our-duties/.

I gysylltu â swyddfa’r wasg Ofwat, ffoniwch 07458 126271

Ynglŷn â Nesta a Nesta Challenges

Sefydliad arloesi yw Nesta. I ni, mae arloesi yn golygu troi syniadau beiddgar yn realiti a newid bywydau er gwell. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd, sgiliau a chyllid mewn meysydd lle mae heriau mawr yn wynebu cymdeithas. Rydym wedi treulio dros 20 mlynedd yn canfod y ffyrdd gorau o wneud i newid ddigwydd drwy ymchwil ac arbrofi, ac rydym wedi cymhwyso hynny i’n gwaith ym meysydd polisi arloesedd, iechyd, addysg, arloesi’r llywodraeth a’r economi greadigol a’r celfyddydau.

O fewn Nesta, mae Nesta Challenges yn bodoli i gynllunio a chynnal gwobrau her sy’n helpu i ddatrys problemau enbyd sydd heb ddatrysiadau. Rydym yn tynnu sylw at y meysydd sy’n bwysig ac yn cymell pobl i ddatrys y materion hyn. Rydym yn gefnogwyr annibynnol newid i helpu cymunedau i ffynnu ac ysbrydoli’r grwpiau mwyaf amrywiol o bobl ledled y byd sydd yn y sefyllfa orau i weithredu.

Rydym yn cefnogi’r syniadau mwyaf beiddgar a dewr i ddod yn real a sbarduno newid hirdymor er mwyn datblygu cymdeithas ac adeiladu dyfodol gwell i bawb. Rydym yn rhan o’r sefydliad arloesi, Nesta. Rydym yn herwyr. Rydym yn arloeswyr. Rydym yn ysgogwyr newid.

Ynglŷn ag Arup

Mae Arup yn gwmni annibynnol o ddylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr technegol, sy’n gweithio ar draws pob agwedd ar amgylchedd adeiledig heddiw. Gyda’n gilydd rydym yn helpu ein cleientiaid i ddatrys eu heriau mwyaf cymhleth – gan droi syniadau cyffrous yn realiti ymarferol wrth i ni ymdrechu i ddod o hyd i ffordd well a siapio byd gwell. Gyda chymuned o dros 1700 o weithwyr dŵr proffesiynol, mae Arup yn arwain syniadaeth yn fyd-eang ar draws meysydd allweddol fel arloesi, gwytnwch, carbon sero net a rheoli dŵr yn gynaliadwy.

Ynglŷn ag Isle Utilities

Mae Isle yn dîm byd-eang o wyddonwyr, peirianwyr, ac arbenigwyr busnes a rheoleiddio annibynnol sydd â nod cyffredin o gael effaith gadarnhaol yn amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd drwy hyrwyddo technolegau, datrysiadau ac arferion arloesol.