PN 21/22 Carthffosydd yn gorlifo yn peri digalondid i gwsmeriaid: galw am weithredu brys gan gwmnïau dŵr gwastraff

 

Mae pobl sy’n dioddef carthffosydd yn gorlifo yn eu cartrefi yn aml yn cael eu gadael i lawr gan gwmnïau dŵr gwastraff, y gall eu hymateb olygu bod cwsmeriaid yn wynebu trallod hirdymor.

Mae ymhwil newydd gan Ofwat a CCW wedi canfod bod achosion o garthffosydd yn gorlifo yn cael effaith negyddol sylweddol ar gwsmeriaid, waeth beth fo difrifoldeb y digwyddiad. Er eu bod yn darparu gwasanaeth da i ddechrau, mae cwmnïau dŵr gwastraff yn methu o ran cyfathrebu, datrysiad ac iawndal yn y tymor hwy.

Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, dioddefodd dros 6,000 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr achos o lifogydd o garthffosydd y tu fewn i’w cartref. Roedd y rhain yn amrywio o arogleuon drwg i bibellau’n blocio i eiddo ac eitemau personol yn cael eu dinistrio.

Dengys yr ymchwil bod cyfathrebu gwael a diffyg datrysiad gan gwmnïau yn gwaethygu profiad trallodus i lawer. Mae’r ymatebion anfoddhaol hyn yn gwneud i gwsmeriaid deimlo’n bryderus, yn ddig, yn rhwystredig ac weithiau’n gaeth. Hefyd, gall yr effaith seicolegol bara’n hir: soniodd gyfranogwyr yr astudiaeth am nosweithiau digwsg a theimladau o gywilydd.

Dywedodd un cwsmer:

“Rydw i’n berson eithaf hamddenol fel arfer, ond rydw i wedi cyrraedd y pwynt fy mod i’n mynd yn ddig â’r sefyllfa… pan gawson ni’r llifogydd dros y Nadolig, roeddwn i mewn dagrau, ac roedd y boi’n anghwrtais iawn. Ef yw’r unig un rydw i erioed wedi gweiddi arno.”  [Menyw sy’n byw gyda gŵr a dau o blant]

Mae dioddefwyr llifogydd o garthffosydd hefyd yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael iawndal digonol am y difrod a achosir gan garthffosydd yn gorlifo. Dywedodd llawer o’r cyfranogwyr na chawsant iawndal, tra bod rhai a gafodd yn teimlo nad oedd yn talu’r costau a gafwyd ganddynt nac yn cydnabod yr effaith gorfforol ac emosiynol a fu arnynt.

Meddai Emma Clancy, Prif Weithredwr CCW:

“Mae dioddef llifogydd o garthion yn un o’r pethau mwyaf trallodus all ddigwydd i chi yn eich cartref, ac mae’r ymchwil hwn wedi datgelu methiant traws-sector sy’n gadael pobl sy’n dioddef llifogydd o garthffosydd mewn amgylchiadau bregus. Trwy Ymgyrch Dileu Trallod Llifogydd o Garthffosydd CCW, rydym yn galw am well iawndal a safonau glanhau i ddioddefwyr llifogydd o garthffosydd.

“Mae asiantau gwasanaeth cwsmeriaid unigol yn dangos empathi tuag at ddioddefwyr llifogydd o garthffosydd, ond yn rhy aml y canfyddiad yw mai yno y mae empathi’r cwmni yn gorffen. Rydym am weld uwch dimau arwain cwmnïau yn dangos ymrwymiad i sicrhau bod dioddefwyr llifogydd yn teimlo bod eu cwmni dŵr yno’n rhagweithiol i helpu drwy gydol eu profiad, o’r ymateb cychwynnol hyd at iawndal a datrysiad.”

Ychwanegodd Jonson Cox, Cadeirydd Ofwat:

“Mae’r trallod a achosir i gwsmer gyda’u tŷ yn gorlifo â charthion, ac yna’r amser ar gyfer glanhau a rhoi popeth yn iawn, yn annirnadwy.

“Pan mae’n digwydd, mae cwsmeriaid yn iawn i ystyried carthffosydd yn gorlifo yn argyfwng. Eto, mae ein hymchwiliad yn dangos y gall ymateb cwmnïau wneud sefyllfa wael hyd yn oed yn waeth. Roedd y storïau a glywsom yn ddirdynnol ac yn annerbyniol. Mae’n rhaid i gwmnïau fynd i’r afael ar fyrder â sut maent yn cyfathrebu â chwsmeriaid sy’n dioddef hyn, sut y maent yn datrys y broblem, a’r iawndal y maent yn ei roi i ddioddefwyr.

“O ganlyniad i’r hyn rydym wedi’i ddatgelu, mae Ofwat a CCW yn galw Prif Weithredwyr cwmnïau dŵr i uwchgynhadledd frys ar y gwasanaeth i alw am weithredu ar unwaith”

Roedd cyfranogwyr hefyd yn teimlo y gallai cwmnïau dŵr gwastraff fod yn gwneud defnydd gormodol ar y fylchau canfyddedig mewn rheolau, megis llifogydd yn cael eu hachosi gan “dywydd eithriadol”, er mwyn osgoi cymryd cyfrifoldeb. Mae rhai cwmnïau eisoes wedi addo dod â’u cymal “tywydd eithriadol” i ben, gyda CCW yn ymgyrchu i annog eraill i ddilyn.

Ni ddylai cwmnïau aros i weithredu. Mae nifer o gamau a amlygwyd yn yr adroddiad y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith:

  • Darparu gwasanaeth brys i ddioddefwyr llifogydd o garthffosydd.
  • Gwneud pob cyfathrebu yn rhagweithiol, yn glir, yn empathig ac yn ddefnyddiol, gydag un pwynt cyswllt i gefnogi’r cwsmer o’r digwyddiad hyd at y datrysiad.
  • Ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau, bod yn dryloyw ynglŷn ag achos llifogydd a’r amserlenni ar gyfer pryd y bydd yn cael ei ddatrys.
  • Sicrhau gwybodaeth glir am, a thalu, iawndal ochr yn ochr â chadw cofnodion da fel bod cwsmeriaid yn cael y taliadau y maent yn gymwys ar eu cyfer yn awtomatig.

DIWEDD

Customer experiences of sewer flooding: A joint report by CCW and Ofwat 

Profiadau cwsmeriaid o garthffosydd yn gorlifo: Adroddiad ar y cyd gan CCW ac Ofwat 

BritainThinks report on sewer flooding experiences 

BritainThinks sewer flooding – discussion guide for interviews

BritainThinks sewer flooding – discussion guide for workshops 

BritainThinks sewer flooding – slides for workshop 

Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar ymchwil ansoddol a gynhaliwyd gan yr asiantaeth ymchwil BritainThinks rhwng 31 Ionawr a 7 Mawrth 2022.

Cynhaliodd BritainThinks 50 o gyfweliadau gyda chyfranogwyr a oedd wedi dioddef llifogydd o garthffosydd. Yna cynhaliodd chwe gweithdy dilyn i fyny gyda chyfranogwyr. Cymerodd 26 o gyfranogwr cyfweliad ran mewn gweithdy.

Recriwtiwyd cyfranogwyr i sicrhau bod ystod o brofiadau yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Mae’r profiadau hyn yn cynnwys cymysgedd o: garthffosydd yn gorlifo y tu mewn i gartrefi (mewnol) ac o amgylch y tu allan neu mewn gerddi cartrefi (allanol); achosion unigol a digwyddiadau lluosog; achosion o ddifrifoldeb isel, canolig, uchel ac uchel iawn; lleoliadau – gyda recriwtio ar draws cwmnïau dŵr gwastraff yng Nghymru a Lloegr; deiliadaeth a math o dai; demograffeg gymdeithasol – gan gynnwys oedran, rhyw, ethnigrwydd a chynhwysiant ar gofrestr gwasanaethau blaenoriaeth.

CCW – llais ar gyfer defnyddwyr dŵr

Ni yw’r llais annibynnol ar gyfer holl ddefnyddwyr dŵr a charthffosiaeth ledled Cymru a Lloegr. Mae’n gwaith yn cynnwys darparu cyngor a gwybodaeth ar faterion dŵr ac ymchwilio i gwynion os yw cwsmeriaid dŵr wedi ceisio ond wedi methu â datrys problemau gyda’u cwmnïau a’u manwerthwyr dŵr.

Dros y 15 mlynedd diwethaf rydym wedi cefnogi defnyddwyr gyda dros 400,000 o gwynion ac ymholiadau ac wedi helpu i ddychwelyd mwy na £30 miliwn mewn iawndal ariannol i gwsmeriaid preswyl a busnes sydd wedi cael cam.

Rydym yn darparu llais cryf a dylanwadol i ddefnyddwyr drwy gadw llygad barcud a chraffu ar berfformiad cwmnïau dŵr, manwerthwyr a’r rheoleiddiwr Ofwat. Mae ein hymchwil, ein harbenigedd a’n mewnwelediadau hefyd yn ein helpu i sicrhau bod barn a buddiannau defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd proses gosod prisiau’r diwydiant.