Er bod dwy ran o dair o bobl yn hapus gyda’r gwasanaethau dŵr y maent yn eu derbyn, dim ond tua thraean o gwsmeriaid fyddai’n ymddiried yn eu cwmni dŵr i ddatrys problem yn gyflym ac mae ychydig dros chwarter yn meddwl bod cwmnïau’n gweithredu er budd pobl a’r amgylchedd.
Heddiw mae Ofwat a CCW wedi cyhoeddi ymchwil ar y cyd i gwsmeriaid sy’n archwilio materion megis dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gwmnïau dŵr, fforddiadwyedd ac ymddiriedaeth.
Canfu’r ymchwil fod blaenoriaethau cwsmeriaid yn canolbwyntio ar y gwasanaethau craidd – darparu dŵr yfed glân a diogel ac atal carthffosiaeth rhag mynd i mewn i gartrefi ac afonydd.
Ychydig iawn o gysylltiad sydd gan lawer o gwsmeriaid â’u cwmni ac mae ganddynt ymwybyddiaeth isel o’r cymorth y mae cwmnïau’n ei gynnig, neu’r amrywiaeth o bethau y mae cwmnïau’n eu gwneud.
Canfu’r adroddiad hefyd:
- Mae mwy na thraean o gwsmeriaid (34%) yn cael trafferth talu biliau yn weddol aml, ond dim ond 4% o dalwyr biliau a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth ariannol gan eu cwmni dŵr dros y flwyddyn ddiwethaf.
- Dywedodd ychydig dros 7 o bob 10 (71%) o bobl y byddent yn argymell eu darparwr dŵr i aelod o’r teulu neu ffrind. Mae hyn yn unol â’r gyfran a fyddai’n argymell eu darparwr trydan (71%) a darparwr nwy (72%).
- Canfuwyd bod gwybodaeth am y sector dŵr yn gymysg, gyda’r rhan fwyaf o bobl (83%) yn dweud eu bod yn gwybod pwy sy’n darparu dŵr i’w cartrefi, ond mae llai na 4 o bob 10 yn ymwybodol na allant newid eu darparwr dŵr.
- Canfuwyd bod ymgysylltu â chwmnïau dŵr yn weddol isel, gyda 44% o’r rhai a holwyd yn dweud nad ydynt erioed wedi cysylltu â’u cwmni dŵr, a 19% arall yn dweud nad ydynt wedi cysylltu â’r cwmni yn ystod y tair blynedd diwethaf.
- Mae lleiafrif o bobl yn meddwl bod cwmnïau’n gweithredu er budd cwsmeriaid (27%), yr amgylchedd (27%) a’r gymuned leol (29%).
O ran effeithlonrwydd dŵr, mae llawer o gwsmeriaid yn sylweddoli bod mwy y gallant ei wneud i arbed dŵr a chydnabod y rôl y gall unigolion ei chwarae. Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu y gallai hyd yn oed cwsmeriaid sy’n teimlo eu bod yn chwarae eu rhan, fod yn gwneud mwy. Mae 48% o bobl yn teimlo eu bod eisoes yn gwneud cymaint ag y gallant i arbed dŵr yn y cartref er nad yw rhai o’r bobl hyn wedi cymryd camau syml fel defnyddio powlen golchi llestri.
Nid yw cwsmeriaid yn tueddu i weld lleihau’r defnydd o ddŵr yn y cartref neu’r ardd fel gweithgaredd blaenoriaeth ar gyfer cyflawni sero net neu newid yn yr hinsawdd. Dim ond 9% o’r rheini a oedd yn gyfarwydd â’r term sero net oedd yn ystyried hyn yn flaenoriaeth o gymharu â gweithgareddau fel ailgylchu, gan awgrymu bod gwaith i’w wneud o hyd yn y sector dŵr i annog mwy o ymddygiadau arbed dŵr.
Yn gyffredinol, mae’r ymchwil yn awgrymu bod rhai cwsmeriaid yn hapus gyda’r gwasanaeth a gânt, heb fod angen cysylltu â’u cwmni. Fodd bynnag, mae lefel isel o ymgysylltu â chwsmeriaid yn peri pryder gan y gallai olygu nad yw cwsmeriaid sydd angen cymorth ariannol neu gymorth gwasanaethau blaenoriaeth yn ymwybodol bod cymorth ar gael iddynt. Gallai diffyg ymgysylltu â chwmnïau hefyd olygu bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth gyfyngedig am sut y gallant wneud mwy i arbed dŵr a chymryd rhan mewn ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol.
Meddai David Black, Prif Weithredwr dros dro Ofwat:
“O ran darparu gwasanaethau dŵr craidd, mae’r ymchwil hwn yn awgrymu bod llawer o gwsmeriaid yn fodlon â’r gwasanaeth y maent yn ei gael. Fodd bynnag, mae’n peri pryder nad oes llawer o hyder ac ymddiriedaeth bod cwmnïau dŵr yn gweithredu er budd y cyhoedd, a dim digon o ymwybyddiaeth o gymorth i’r rhai mewn angen.
“Wrth i’r amseroedd fynd yn anoddach, ac wrth i bryderon gynyddu am effaith cwmnïau dŵr ar yr amgylchedd, mae angen i gwmnïau wneud llawer mwy i feithrin ymddiriedaeth a dangos eu bod yn gweithredu er budd y cyhoedd.”
Meddai Emma Clancy, Prif Weithredwr CCW:
“Er ei bod yn galonogol bod cwsmeriaid yn fodlon ar y cyfan â’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn, mae’r canfyddiadau hyn yn pwysleisio pa mor hanfodol yw hi i gwmnïau dŵr gryfhau eu perthynas â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”
“Un o’n blaenoriaethau yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi dŵr wrth i bwysau gynyddu ar ein hadnoddau ac mae hynny’n dibynnu ar gwmnïau dŵr yn gwella eu perfformiad ac yn darparu mwy o dryloywder ar eu perfformiad amgylcheddol. Mae ein hadolygiad o fforddiadwyedd dŵr hefyd wedi nodi llwybr clir i gryfhau’r cymorth i’r rheini sy’n wynebu caledi ariannol.”
Dyma’r tro cyntaf i Ofwat a CCW gynnal archwiliad cynhwysfawr o wybodaeth, bodlonrwydd, ymddiriedaeth, blaenoriaethau ac ymddygiad cwsmeriaid dŵr preswyl.
Mae’r data hwn yn rhoi meincnod ar gyfer y dyfodol a bydd Ofwat ni a CCW yn parhau i gasglu’r data hwn:
//DIWEDD//
Nodiadau i olygyddion
- Sbotolau ar Gwsmeriaid: Barn a phrofiadau pobl o ddŵr yw’r darn cyntaf o ymchwil a gomisiynwyd ar gwsmeriaid cartref rhwng Ofwat a CCW. Mae’r ddogfen atodol yn adrodd hanes yr hyn y mae cwsmeriaid yn ei wybod, ei eisiau ac yn ei wneud mewn perthynas â’u gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.
- Dolen i’r ymchwil ar ôl ei gyhoeddi:
- Cynhaliwyd yr ymchwil gan Savanta. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau.
- Roedd yr ymchwil yn cynnwys:
- Arolwg ar-lein gyda 2,951 o ymatebwyr, a gynhaliwyd 23 Tachwedd – 14 Rhagfyr 2021. Mae’r sampl yn cynnwys: 2,116 o ymatebwyr yn Lloegr a 507 o ymatebwyr yng Nghymru. Pwysolwyd data yn ôl demograffeg allweddol gan gynnwys oedran, rhyw a rhanbarth i fod yn gynrychioliadol o oedolion yng Nghymru a Lloegr. Sampl atgyfnerthu o 328 o gyfranogwyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a Lloegr.
- Arolwg dros y ffôn gyda 100 o ymatebwyr oedd wedi’u ‘hallgau’n ddigidol’, a gynhaliwyd 4-18 Hydref 2021. Nid oedd hwn yn sampl cynrychioliadol cenedlaethol. Ei ddiben oedd casglu barn pobl sy’n llai cyfforddus yn defnyddio offer ar-lein ac a fyddai felly’n cael eu cynrychioli’n llai yn sampl yr arolwg ar-lein.
- Nodir y canfyddiadau llawn yn Savanta ar wefan Ofwat a gwefan CCW.
- Gellir cyrchu tablau data a holiadur ar-lein llawn o wefan Ofwat a gwefan Savanta www.comresglobal.com.
- Customer spotlight data tables – combined England and Wales
- Customer spotlight data tables – England
- Customer spotlight data tables – Wales
- Customer spotlight data tables – Ethnic minority respondents booster sample
- Customer spotlight data tables – Telephone survey digitally disfranchised
- Nid yw cyfran y bobl a fyddai’n argymell darparwr cyfleustodau i deulu a ffrindiau yn cynnwys y rhai a atebodd ‘D/G’ i’r cwestiynau hyn. Sail: 2,186-2,565)