Reviewing water for you

Cymraeg

 

We all rely on water every day: at home, for work and for leisure, and so does nature and the wildlife we all enjoy. Water may fall free from the sky, but it takes a lot to make it safe to drink and also to deal with the water we use.

Ofwat protects your interests by, among other things, carrying out a price review every five years for water and wastewater services in England and Wales.

On this page you can find out:

What is a price review?

At home, most water services in England and Wales are provided by one of 17 water companies, and their wastewater services are provided by one of 11 of those water companies. So, most people receive their water services from a licensed monopoly. Only some business customers can choose their supplier.

Because competition is limited, there is a risk that these companies will not deliver the services their customers want. They may also charge higher prices to increase their profits. Therefore the water companies need to be regulated.

Ofwat protects water customers interests using a range of regulatory tools. That includes every five years, we decide the level of services all customers can expect to get. This will include how much it will cost to keep your services running efficiently including how much money should go to protecting the environment and meeting future water needs.

We call this a ‘price review’. It affects the services you can expect to get and the bills you pay.

We are currently working on our next price review, and we’ll be announcing our final decisions in December 2024. It’s called the 2024 price review or PR24 and it will set the levels of service and bills for 2025 to 2030.

What happens in the price review process?

Water companies submit their business plans to us every five years, setting out how much they intend to spend providing their services over the five-year period, and the amount of revenue that they feel they should be permitted to earn as a result from customers in the form of water and wastewater bills.

As part of the price review process, we expect companies to listen to their customers to understand their preferences and priorities and ensure that these are reflected in all aspects of their business plans.

One of Ofwat’s roles is to challenge these plans to ensure customers get the best service and price deal. We ensure that companies are funded to carry out all their obligations to their customers and the environment efficiently. This includes current and future customers. As part of our review, we set a limit on the total amount of revenue that each water company can recover from its customers in their bills.

How can I have my say on future services and bills?

Water companies will be developing their business plans for 2025 to 2030 before sending us them in October 2023. We expect companies to listen to their customers to understand their preferences and priorities and ensure that these are reflected in all aspects of their business plans.

You can contact your water company if you would like them to consider something specific for the future or in the services they deliver now. Companies will be contacting people in their local areas to do research too.

Each water company will be developing their 25-year plan for meeting demand for water. And each wastewater company will be developing their 25-year plan for meeting wastewater and drainage needs. They must publicly consult on these plans.

We will publicly be consulting on our draft decisions for services and bills in summer 2024. This is open to anyone to respond.

How does Ofwat prevent services from being underfunded?

Water companies develop their business plans for delivering services – including the spending they need for new reservoirs, treatment plants and pipes, which help contribute to the delivery of services now and in the future.

Each company’s business plan is based on their long-term plans to meet the supply and demand for services – and environmental and drinking water quality requirements, overseen by other regulators, such National Resources Wales, the Environment Agency and the Drinking Water Inspectorate.

We consult on our draft decisions publicly, on how we will go about setting revenue limits and on what those limits will be, to ensure we hear views from companies, customer representatives and other regulators.

Companies have the flexibility to spend more than we have allowed if it is needed, and in more extreme circumstances, they can ask us for more money. If companies disagree with our final decisions, they can appeal our decisions to the Competition and Markets Authority.

Explore some more questions about investment in the industry.

How can I find out more about the 2024 price review?

Our 2024 price review (PR24) is where we will set the levels of service and bills for 2025 to 2030. Read more about PR24. 

We send out a regular email newsletter with the latest information about PR24. You can sign up to receive this straight to your inbox here. You can also unsubscribe at any time using the unsubscribe option at the end of any of the emails.


Adolygu Dŵri Chi

 

Mae pawb ohonom yn dibynnu ar ddŵr bob dydd: yn y cartref, ar gyfer gwaith ac ar gyfer hamdden, ac felly hefyd natur a’r bywyd gwyllt rydym ni gyd yn ei fwynhau. Efallai bod dŵr y disgyn o’r awyr, ond mae’n cymryd llawer i’w wneud yn ddiogel i’w yfed a hefyd i ddelio â’r dŵr rydym yn ei ddefnyddio.

Mae Ofwat yn diogelu eich buddiannau drwy, ymhlith pethau eraill, gynnal adolygiad prisiau bob pum mlynedd ar gyfer gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff yng Nghymru a Lloegr.

Ar y dudalen hon gallwch ddarganfod:

Beth yw adolygiad prisiau?

Yn y cartref, mae’r rhan fwyaf o wasanaethau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu darparu gan un o 17 o gwmnïau dŵr, ac mae eu gwasanaethau dŵr gwastraff yn cael eu darparu gan un o 11 o’r cwmnïau dŵr hynny. Felly, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwasanaethau dŵr gan fonopoli trwyddedig. Dim ond rhai cwsmeriaid busnes all ddewis eu cyflenwr.

Oherwydd bod cystadleuaeth yn gyfyngedig, mae perygl na fydd y cwmnïau hyn yn darparu’r gwasanaethau y mae eu cwsmeriaid eu heisiau. Gallant hefyd godi prisiau uwch i gynyddu eu helw. Felly mae angen rheoleiddio’r cwmnïau dŵr.

Mae Ofwat yn diogelu buddiannau cwsmeriaid dŵr gan ddefnyddio amrywiaeth o offer rheoleiddio. UMae hynny’n cynnwys, bob pum mlynedd rydym yn penderfynu ar lefel y gwasanaethau y gall pob cwsmer ddisgwyl eu cael. Bydd hyn yn cynnwys faint y bydd yn ei gostio i gadw’ch gwasanaethau i redeg yn effeithlon gan gynnwys faint o arian ddylai fynd i ddiogelu’r amgylchedd a diwallu anghenion dŵr yn y dyfodol.

‘Adolygiad prisiau’ yw’r enw rydym yn ei roi ar hyn. Mae’n effeithio ar y gwasanaethau y gallwch ddisgwyl eu cael a’r biliau yr ydych yn eu talu.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ein hadolygiad prisiau nesaf, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol ym mis Rhagfyr 2024. Fe’i gelwir yn adolygiad prisiau 2024, neu PR24, a bydd yn pennu lefelau gwasanaeth a biliau ar gyfer 2025 i 2030.

Beth sy’n digwydd yn y broses adolygu prisiau?

Mae cwmnïau dŵr yn cyflwyno eu cynlluniau busnes i ni bob pum mlynedd, gan nodi faint y maent yn bwriadu ei wario ar ddarparu eu gwasanaethau dros y cyfnod o bum mlynedd, a faint o refeniw y maent yn teimlo y dylid caniatáu iddynt ei ennill o ganlyniad i gwsmeriaid ar ffurf biliau dŵr a dŵr gwastraff.

Fel rhan o’r broses adolygu prisiau, rydym yn disgwyl i gwmnïau wrando ar eu cwsmeriaid i ddeall eu dymuniadau a’u blaenoriaethau a sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu ym mhob agwedd o’u cynlluniau busnes.

Un o rolau Ofwat yw herio’r cynlluniau hyn i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y fargen orau o ran gwasanaethau a phrisiau. Rydym yn sicrhau bod cwmnïau’n cael eu hariannu i gyflawni eu holl rwymedigaethau i’w cwsmeriaid a’r amgylchedd yn effeithlon. Mae hyn yn cynnwys cwsmeriaid y presennol a rhai’r dyfodol. Fel rhan o’n hadolygiad, rydym yn gosod terfyn ar gyfanswm y refeniw y gall pob cwmni dŵr ei adennill gan ei gwsmeriaid yn eu biliau.

Sut allaf leisio fy marn ar wasanaethau a biliau yn y dyfodol?

Bydd cwmnïau dŵr yn datblygu eu cynlluniau busnes ar gyfer 2025 i 2030 cyn eu hanfon atom ym mis Hydref 2023. Rydym yn disgwyl i gwmnïau wrando ar eu cwsmeriaid i ddeall eu dymuniadau a’u blaenoriaethau a sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu ym mhob agwedd o’u cynlluniau busnes.

Gallwch gysylltu â’ch cwmni dŵr os hoffech iddynt ystyried rhywbeth penodol ar gyfer y dyfodol neu o ran y gwasanaethau y maent yn eu darparu nawr. Bydd cwmnïau yn cysylltu â phobl yn eu hardaloedd lleol i wneud ymchwil hefyd.

Bydd pob cwmni dŵr yn datblygu eu cynllun 25 mlynedd er mwyn ateb y galw am ddŵr. A bydd pob cwmni dŵr gwastraff yn datblygu eu cynllun 25 mlynedd er mwyn diwallu anghenion dŵr gwastraff a draenio. Rhaid iddynt ymgynghori’n gyhoeddus ar y cynlluniau hyn.

Byddwn yn ymgynghori’n gyhoeddus ar ein penderfyniadau drafft ar gyfer gwasanaethau a biliau yn haf 2024. Gall unrhyw un ymateb i hyn.

Sut mae Ofwat yn atal gwasanaethau rhag cael eu tanariannu?

Mae cwmnïau dŵr yn datblygu eu cynlluniau busnes ar gyfer darparu gwasanaethau – gan gynnwys y gwariant sydd ei angen arnynt ar gyfer cronfeydd dŵr, gweithfeydd trin a phibellau newydd, sy’n helpu i gyfrannu at ddarpariaeth gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol.

Mae cynllun busnes pob cwmni yn seiliedig ar eu cynlluniau hirdymor i fodloni’r cyflenwad a’r galw am wasanaethau – a gofynion amgylcheddol ac ansawdd dŵr yfed, a oruchwylir gan reoleiddwyr eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Rydym yn ymgynghori ar ein penderfyniadau drafft yn gyhoeddus, ynglŷn â sut y byddwn yn mynd ati i osod terfynau refeniw a beth fydd y terfynau hynny, i sicrhau ein bod yn clywed barn cwmnïau, cynrychiolwyr cwsmeriaid a rheoleiddwyr eraill.

Mae gan gwmnïau’r hyblygrwydd i wario mwy nag yr ydym wedi’i ganiatáu os oes ei angen, ac mewn amgylchiadau mwy eithafol gallant ofyn i ni am fwy o arian. Os bydd cwmnïau’n anghytuno â’n penderfyniadau terfynol, gallant apelio yn erbyn ein penderfyniadau i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Archwiliwch ragor o gwestiynau am fuddsoddi yn y diwydiant.

Sut allaf ddarganfod mwy am adolygiad prisiau 2024?

Yn ein hadolygiad prisiau 2024 (PR24) byddwn yn pennu’r lefelau gwasanaeth a biliau ar gyfer 2025 i 2030. Darllenwch fwy am PR24.

Rydym yn anfon cylchlythyr rheolaidd drwy e-bost gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am PR24. Gallwch gofrestru i dderbyn hwn yn syth i’ch mewnflwch yma. Gallwch hefyd ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r opsiwn dad-danysgrifio ar ddiwedd unrhyw un o’r e-byst.